24 Rhag 2019

Ar Ragfyr 13, cyd-gadeiriodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn, Uwchgynhadledd Atal Trawsbartneriaeth gyda Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd a Chadeirydd Bwrdd Cynllunio Ardal Hywel Dda. Canolbwyntiodd y digwyddiad ar sut y gallai asiantaethau weithio gyda'i gilydd yn well i wella'r ffordd y darperir gwasanaethau a llywio dull mwy ataliol o leihau'r niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau.

Roedd y prif siaradwyr yn yr uwchgynhadledd yn cynnwys:

  • Pennaeth cyflawni gwasanaethau camddefnyddio sylweddau Llywodraeth Cymru
  • Rheolwr Crimestoppers yng Nghymru, sydd wedi datblygu gwasanaeth ieuenctid Fearless fel rhan o raglen atal trais difrifol Cymru
  • Pat Hudson o Anyone’s Child, rhwydwaith rhyngwladol o deuluoedd sy'n ymgyrchu dros Ddiwygio Polisïau Cyffuriau a gwella gwasanaethau triniaeth yn dilyn achosion trasig o orddosio angheuol

Clywodd y grŵp am effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a sut mae'r rhain yn effeithio ar les cenedlaethau'r dyfodol. Mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn brofiadau anodd yn ystod plentyndod sy'n niweidio plentyn yn uniongyrchol neu'n effeithio ar yr amgylchedd y maent yn byw ynddo. Dengys tystiolaeth fod profiadau megis trais domestig, cyffuriau ac alcohol neu rieni’n cael eu carcharu yn gwneud plant yn fwyfwy tebygol o ddatblygu ymddygiad sy'n niweidio iechyd, gan gynnwys camddefnyddio sylweddau, trais neu feichiogrwydd anfwriadol yn yr arddegau.

Dywedwyd wrth y mynychwyr hefyd am yr ymchwil arloesol ac arobryn i ganfod ac adnabod cyffuriau sy'n cael ei gynnal yn yr arena ffarmacolegol. Mae'r math hwn o ymchwil yn hanfodol er mwyn deall natur gymhleth sylweddau seicoweithredol newydd a dysgu sut i fynd i'r afael â'r niwed sy'n cael ei achosi.

Dywedodd Dafydd Llywelyn: "Bu 24 o farwolaethau cysylltiedig â chyffuriau yn ardal Dyfed Powys hyd yn hyn yn ystod 2019, gyda 22 o farwolaethau yn 2017 ac 20 yn 2018. Hyd yn hyn yn 2019, mae Heddlu Dyfed Powys wedi arestio 834 am droseddau'n ymwneud â chyffuriau. Mae'r niferoedd hynny o farwolaethau'n rhy uchel o lawer - a dyna pam yr oedd yn hanfodol i mi gyd-gadeirio'r Uwchgynhadledd Atal Trawsbartneriaeth hon. Yr wyf yn teimlo’n angerddol ynglŷn â llywio dull mwy ataliol o fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau. Yn ystod yr uwchgynhadledd, cawsom gyflwyniad emosiynol iawn hefyd gan deulu a oedd wedi colli rhywun annwyl oherwydd camddefnyddio sylweddau. Fe wnaethant nodi'r hyn y credent fyddai'n helpu eraill yn y sefyllfa honno. Fe wnaeth eu stori gyffwrdd â phob un ohonom - ac atgyfnerthodd ein hymrwymiad i wella ein darpariaeth gwasanaeth er mwyn lleihau'r niwed a'r marwolaethau o gamddefnyddio sylweddau ymhellach."

Roedd casgliadau allweddol yr uwchgynhadledd yn cynnwys yr angen i leihau'r rhwystrau a berir gan rannu gwybodaeth rhwng asiantaethau, pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth a'r awydd i ymchwilio i ddulliau newydd o leihau niwed. Pwysleisiodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yr angen am ddiwygio, gan ddweud na fyddwn yn newid y duedd o ran cynyddu nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau heb ddiwygio'r holl ddull deddfwriaethol a rheoleiddiol o ymdrin â sylweddau yn sylweddol.

Diwedd

Nodyn i olygyddion

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch Fearless, cliciwch ar y ddolen hon https://www.fearless.org/cy