28 Meh 2019

Datganiad i'r Wasg Dydd Gwener 28 Mehefin 2019

 

I nodi ‘Wythnos Gwaith Ieuenctid ’yng Nghymru, mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn yn cydnabod pwysigrwydd rôl gweithwyr ieuenctid wrth atal pobl ifanc rhag ymwneud â throsedd.

Mae'r Comisiynydd wedi bod yn helpu i lansio'r prosiect diweddaraf gan y gwasanaeth ieuenctid ‘Fearless’ a gefnogwyd gan yr elusen ‘Crimestoppers ’, sy'n mynd i'r afael â chamfanteisio pobl ifanc yn droseddol.

Gan weithio ochr yn ochr â gweithwyr ieuenctid eraill o'r sector cyhoeddus ac elusennol, a chyda chefnogaeth Cyngor Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol Cymru, mae tîm newydd o weithwyr ieuenctid ‘Fearless’ wedi cael eu cyflogi fel rhan o brosiect atal trais difrifol ledled Cymru.

Mewn digwyddiad partneriaeth a drefnwyd gan ‘Crimestoppers’ yn Llanelli, tynnodd sylw at gyfraniad gweithwyr ieuenctid wrth ymgysylltu â phobl ifanc i'w hailgyfeirio rhag troseddu, a hefyd sicrhau bod ganddynt lais i siarad am drosedd.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys:

“Mae gan Waith Ieuenctid ran allweddol i'w chwarae wrth gysylltu â phobl ifanc mewn ffordd sydd yn peidio barnu, yn  anffurfiol ac yn ystyrlon. Gall gweithwyr ieuenctid feithrin ymddiriedaeth trwy eu cynnwys mewn gweithgareddau cadarnhaol yn eu cymunedau a siarad â nhw am faterion fel cam-fanteisio a chyffuriau anghyfreithlon, er mwyn eu helpu i gadw'n ddiogel rhag niwed. Fel rhan o'm hymrwymiad i weithio gyda phobl ifanc, rwyf hefyd yn darparu £180,000 tuag at waith Timau Troseddau Ieuenctid ym mhedair Sir Dyfed-Powys, sy'n gweithio gyda phobl ifanc 8-17 oed sydd mewn perygl o droseddu, gyda'r nod o wella eu diogelwch a'u lles.

“Rwy'n awyddus i bobl ifanc gael llais am faterion sy'n ymwneud â throsedd. Trwy fy fforwm ieuenctid, rydw i'n gwrando ar safbwyntiau am blismona ac yn edrych ar ffyrdd newydd o gysylltu â grwpiau anodd eu cyrraedd. Bydd gwasanaeth ieuenctid Fearless hefyd yn helpu i annog pobl ifanc i siarad am drosedd trwy adrodd eu pryderon i oedolyn y gellir ymddiried ynddo neu drwy ddefnyddio Fearless.org yn ddienw. ”

 

Dywedodd Ella Rabaiotti, Rheolwr Cenedlaethol Crimestoppers:

“Drwy ein hymgyrchoedd digidol, rydym wedi bod yn estyn allan at bobl ifanc i'w haddysgu am drosedd ac rydym yn falch iawn o allu ehangu ein gwaith ieuenctid uniongyrchol gyda chefnogaeth y Comisiynydd.”

“Bydd ein gweithdai ieuenctid yn ein galluogi i rannu ein ffilm addysgol newydd – Running the Lines - i atal pobl ifanc rhag camfanteisio arnynt gan gangiau troseddol. Trwy'r prosiect hwn, rydym yn gobeithio y gallwn roi pŵer i bobl ifanc i fod yn ymwybodol o'r drosedd a'r camfanteisio, teimlo'n fwy diogel a bod yn hyderus i'w riportio - gan gynnwys yr opsiwn i aros yn ddienw drwy Fearless.org ”

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect Fearless, ewch i Fearless.org.

DIWEDD