09 Hyd 2019

Heddiw, mae’r Swyddfa Gartref wedi cyhoeddi y bydd Heddlu Dyfed-Powys yn derbyn pedwar deg dau swyddog ychwanegol, fel rhan o gam cyntaf y rhaglen gynnydd genedlaethol.

Dyma’n ymateb ymateb Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, a Prif Gwnstabl Mark Collins.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu:

“Rwy’n falch, ond yn bwyllog ynghylch cyhoeddiad heddiw y bydd Heddlu Dyfed-Powys yn derbyn 42 swyddog ychwanegol. Edrychaf ymlaen at weld manylion y trefniadau ariannu, sydd angen bod yn gynaliadwy drwy’r grant heddlu craidd. Mewn blynyddoedd diweddar, rydyn ni wedi dibynnu gormod ar y praesept treth gyngor i ariannu cyflenwi plismona lleol.”

Dywedodd y Prif Gwnstabl Mark Collins:

“Rydyn ni’n croesawu cyhoeddiad y Swyddfa Gartref heddiw, sef y bydd Heddlu Dyfed-Powys yn derbyn 42 swyddog ychwanegol yn ystod blwyddyn gyntaf y rhaglen gynnydd.

“Ers i system recriwtio newydd gael ei chyflwyno ar gyfer heddluoedd Cymru ar y cyd, fel heddlu, rydyn ni mewn sefyllfa arbennig o dda, ac mae gennym fintai o swyddogion y dyfodol sydd eisoes wedi mynd trwy’r broses recriwtio ac sy’n barod ac yn eiddgar i ymuno â ni.

“Mae cadarnhad o’r nifer a bennwyd i Heddlu Dyfed-Powys fel rhan o gynnydd cenedlaethol yn nifer y swyddogion heddlu’n golygu ein bod ni’n medru derbyn yr unigolion hyn ar y cyfle cyntaf. Edrychwn ymlaen at eu lleoli mewn ardaloedd lle y gwyddwn y byddant yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf mor gynnar â mis Ionawr. “Rwy’n edrych ymlaen at weld pwy arall fydd yn camu ymlaen ar gyfer gyrfa fuddiol gyda Heddlu Dyfed-Powys pan fyddwn ni’n dechrau recriwtio eto ar 9 Ionawr.” 

DIWEDD