08 Awst 2019

07/08/2019

Cysylltiad y cyhoedd â Heddlu Dyfed-Powys – sut, pam, ac a yw’n hawdd?

Mae eich Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn, a’i dîm, wrthi’n cynnal adolygiad er mwyn cael gwell dealltwriaeth o gysylltiad y cyhoedd â’r heddlu.

Dywed Dafydd Llywelyn: “Rwyf eisiau ymdrin â’r ffordd rydych chi’n cysylltu â’r heddlu a’r rheswm am gysylltu â nhw, ac wrth wneud, pa un ai a oeddech chi’n teimlo bod cysylltu â nhw’n hawdd.

Rwyf eisiau darganfod pa un ai a ydych chi’n teimlo bod yr heddlu’n ei gwneud hi’n glir sut, a phryd, ddylech chi gysylltu â nhw. Rwyf hefyd eisiau darganfod pa wasanaeth ydych chi’n disgwyl o ran cysylltu â’r heddlu.

Un o’r blaenoriaethau a nodais o fewn fy Nghynllun Heddlu a Throseddu yw sicrhau eich bod chi’n derbyn gwasanaeth hygyrch ac ymatebol gan eich gwasanaeth heddlu. Gan hynny, yn hollbwysig, rwyf eisiau darganfod pa un ai oes angen unrhyw welliannau.”

Hwn yw llinyn diweddaraf ymagwedd newydd well tuag at ymrwymiad parhaus y Comisiynydd i ddal yr heddlu i gyfrif am gyflwyno gwasanaeth heddlu effeithiol ac effeithlon ar gyfer preswylwyr Dyfed-Powys. Mae’r Comisiynydd wedi cynnal dau adolygiad tebyg o’r blaen, a oedd yn edrych ar ddefnydd yr heddlu o rym, ac ymagwedd yr heddlu tuag at fynd i’r afael â chyffuriau anghyfreithlon. Roedd y ddau adolygiad yn cynnwys agwedd ymgynghoriad cyhoeddus a arweiniodd at yr heddlu’n gwneud rhai gwelliannau yn y meysydd hyn.

Mae eich Comisiynydd wedi lansio arolwg cyhoeddus ar gyfer ei adolygiad diweddaraf.

Mae’r arolwg yn gofyn i chi ystyried megis pa un ai a fyddech chi’n cysylltu â’r heddlu neu un o’i sefydliadau partner mewn nifer o sefyllfaoedd gwahanol, pa mor wybodus ydych chi am yr amrywiol ffyrdd fedrwch chi gysylltu â’r heddlu, sut fyddai’n well gennych gysylltu â’r heddlu, a pha un ai a ydych chi wedi profi unrhyw rwystrau o ran cysylltu â’r heddlu.

Ychwanega Dafydd Llywelyn: “Byddwn yn gwerthfawrogi’n fawr pe baech chi’n medru rhoi o’ch amser i lenwi’r arolwg hwn er mwyn rhoi gwybod i mi beth yw’ch barn a’ch profiadau penodol o ran cysylltu â Heddlu Dyfed-Powys. Diolch am eich amser.”

Cewch lenwi’r arolwg ar-lein ar: https://www.surveymonkey.co.uk/r/MQLW7D3

Fel arall, medrwch gysylltu â swyddfa’r Comisiynydd ar 01267 226440 / opcc@dyfed-powys.pnn.police.uk i ofyn am gopi papur.

Daw’r arolwg i ben am hanner dydd ar 2 Medi.

Diwedd