09 Gor 2018

Mae cytundebau wedi eu dyfarnu a bydd gwaith yn dechrau’r mis hwn (Gorffennaf) i ail-fuddsoddi mewn Teledu Cylch Cyfyng mewn 17 tref ar draws Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion a Phowys.

 

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyflawni proses caffael drylwyr ac wedi dyfarnu’r contract ar gyfer y gwaith i Baydale Control Systems Ltd. Mae’r camerâu uwchdechnoleg yn cael eu cyflenwi gan Hikvision UK & Ireland.

 

Bydd y prosiect yn dod â 116 o’r camerâu mwyaf cyfoes i drefi a nodwyd yn safleoedd blaenoriaeth ar gyfer camerâu drwy ddadansoddi trosedd a thrwy ymgynghori â rhanddeiliaid.

 

Mae ail-fuddsoddi a gwella’r ddarpariaeth Teledu Cylch Cyfyng yn un o brif flaenoriaethau’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu sydd wedi bod yn weithredol wrth ddod â’r prosiect i derfyn ers iddo gael ei ethol.

 

Meddai Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys: “Roedd Teledu Cylch Cyfyng yn adduned etholiad allweddol gennyf i, ac addewais y byddwn yn buddsoddi mewn isadeiledd Teledu Cylch Cyfyng modern. Rwy’n falch iawn o allu dweud fod hyn nawr yn digwydd.

 

“Mae’n hanfodol bwysig fod yr Heddlu’n gwneud y defnydd gorau o’r ail-fuddsoddiad sylweddol hwn er mwyn targedu mannau problemus a chyflawni gostyngiadau mewn cysylltiad ag anhrefn a thrais.

 

“Nid cyflwyno hyn fydd diwedd gwaith yr Heddlu yn y maes hwn, a bydd cyfleoedd ar gyfer safleoedd camerâu yn y dyfodol yn cael eu hystyried.”

 

Meddai Mark Collins, Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys: “Mae gwaith rhyfeddol wedi mynd i mewn i’r Prosiect Teledu Cylch Cyfyng er mwyn cyrraedd y cam hwn. Mae’r gwaith cefndir wedi bod yn angenrheidiol er mwyn sicrhau fod gennym isadeiledd o gamerâu mewn lleoliadau priodol a bennwyd drwy asesiadau angen.

 

“Bydd y camerâu eu hunain o’r dechnoleg ddiweddaraf, a bydd hyn yn helpu Dyfed-Powys i fod yn un o’r llefydd mwyaf diogel i fyw, gweithio ac ymweld ag ef yn y DU. Rwyf yn hyderus y bydd y system yn profi i fod yn gaffaeliad amhrisiadwy wrth atal trosedd ac ymateb i ddigwyddiadau’n gyflym wrth iddynt ddechrau, a chyn iddynt waethygu. Bydd tystiolaeth o’r camerâu Teledu Cylch Cyfyng hefyd heb amheuaeth yn profi’n offeryn ymchwiliol pwysig i swyddogion.”

 

Mae gwaith i gychwyn yn Llanfair-ym-Muallt, Powys yn ystod ail wythnos mis Gorffennaf.

 

Bydd y rhaglen waith yn cael ei chynnal dros y misoedd nesaf a bydd yn cael ei chwblhau yng Ngwanwyn 2019.

 

Mae lleoliadau’r camerâu wedi eu dethol drwy fapio ardaloedd â phroblemau trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ofalus er mwyn cael y budd gorau o bob safle camera.

 

Meddai Jeremy Owens, Rheolwr Ardal Baydale Control Systems Ltd: “Mae’n bleser mawr gan Baydale Control Systems Ltd gyhoeddi dyfarniad contract Teledu Cylch Cyfyng ardal gyhoeddus Heddlu Dyfed Powys.

“Mae Baydale wedi dylunio system sydd wedi ei deilwra at anghenion heddlu cyfoes a blaengar.

“Rydym yn edrych ymlaen at drosglwyddo datrysiad, a fydd yn un o’r cyntaf yn y DU, ac adeiladu perthynas weithio agos gyda Heddlu Dyfed Powys.

“Mae ennill y contract pwysig hwn yn caniatáu i Baydale Control Systems Ltd ymrwymo i gynnydd a chyfleoedd swyddi pellach yng Nghymru.”

 

Mae’r prosiect wedi ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru a’r pedwar awdurdod lleol.

 

Mae mwyafrif y camerâu sy’n bodoli eisoes yn eiddo i awdurdodau lleol a chynghorau tref. Fel rhan o’r prosiect ail-fuddsoddi, a thrwy gytundeb gyda’r cynghorau a’r awdurdodau lleol, bydd Heddlu Dyfed Powys yn cymryd perchnogaeth o 116 o’r safleoedd hynny.

 

Bydd y camerâu’n dod â delweddau Teledu Cylch Cyfyng manylder uwch i system monitro ganolog ym Mhencadlys yr Heddlu. Bydd hefyd gyfleusterau monitro yng ngorsafoedd lleol a fydd yn caniatáu i swyddogion fonitro eu camerâu lleol wrth wasgu botwm. Bydd swyddogion hefyd yn gallu adolygu Teledu Cylch Cyfyng ar eu dyfeisiau data symudol.

 

Meddai Ian Compton, Rheolwr Datblygu Busnes Hikvision UK&I: “Mae’n anrhydedd gan Hikvision UK fod Heddlu Dyfed-Powys wedi dewis ein cynhyrchion a’n datrysiadau gwyliadwriaeth fideo arloesol.

“Rydym yn edrych ymlaen at weithio’n agos gyda’r tîm trosglwyddo prosiect a’n partneriaid, Baydale Control Systems Ltd, i helpu dod â diogelwch cyhoeddus ar draws yr ardal.”

 

Mae’r 17 tref ganlynol wedi eu dethol ar gyfer buddsoddiad Teledu Cylch Cyfyng:

 

Aberdaugleddau

Abergwaun

Aberhonddu

Aberteifi

Aberystwyth

Caerfyrddin

Dinbych-y-pysgod

Doc Penfro

Hwlffordd

Llandrindod

Llanelli

Llanfair-ym-Muallt

Penfro

Rhydaman

Saundersfoot

Y Drenewydd

Y Trallwng

 

------------------------------------------------------------ends-------------------------------------------------------------------