12 Maw 2020

Ar 2 Mawrth 2020, cyhoeddodd y Swyddfa Gartref fod Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys wedi sicrhau cyllid ar gyfer 120 o Tasers newydd.

Yn dilyn y cyhoeddiad, bydd Heddlu Dyfed-Powys yn derbyn bron i £100,000 o arian ychwanegol i arfogi mwy o swyddogion y llu.

Lansiwyd y cynllun i gynnig am yr arian ym mis Ionawr, a oedd yn darparu cyfle i bob Comisiynydd Heddlu a Throseddy (CHTh) ledled Cymru a Lloegr ymgeisio am nawdd o gronfa gwerth £10 miliwn.

Roedd dyfarniadau yn seiliedig ar y bygythiadau a'r risgiau mewn ardaloedd lleol ac amlinellodd CHTh faint o swyddogion ychwanegol y maent yn bwriadu eu hyfforddi i ddefnyddio Tasers yn eu ceisiadau.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn; “Croesewir y cyhoeddiad am y cyllid ar gyfer tasers ychwanegol i swyddogion yr heddlu yn enwedig yng ngoleuni'r cynnydd diweddar mewn ymosodiadau ar Swyddogion Heddlu.

“Fel Comisiynydd, sicrhau diogelwch y gymuned gan gynnwys diogelwch swyddogion yr heddlu yw fy mlaenoriaeth”.

Dywedodd yr Uwcharolygydd Jon Cummins, Arweinydd Gweithrediadau Arbenigol yn Heddlu Dyfed-Powys: “Rydym yn croesawu’r cyhoeddiad am 120 o Tasers ychwanegol i’r heddlu. Gall tasers fod yn opsiwn gwerthfawr ac effeithiol i swyddogion heddlu wrth ddelio â thrais neu fygythiadau trais. Mae Tasers yn caniatáu i'r heddlu ymateb i sefyllfaoedd lle fel arall efallai y bydd yn rhaid i ni ddefnyddio drylliau ac mae'n un o nifer o opsiynau tactegol a ddefnyddir gan yr heddlu i amddiffyn eu hunain ac aelodau o'r gymuned.

 “Mae nifer yr awdurdodiadau Taser wedi cynyddu dros y 2 flynedd ddiwethaf, sydd o ganlyniad i nifer cynyddol o ddigwyddiadau yn ymwneud â phresenoldeb cyllyll. Mae hon yn duedd sy'n dod i'r amlwg ac sy'n cael ei hefelychu'n genedlaethol.

“Bydd y dyfeisiau ychwanegol yn cael eu rhannu ar draws ardal yr heddlu yn unol â’r galw.

“Mae Taser yn opsiwn tactegol pwysig i swyddogion ond nid dyna’r ateb i bob sefyllfa dreisgar neu fygythiol. Mae ei ddefnydd yn cael ei reoleiddio gan safonau llym ac mae'n amodol ar gwblhau rhaglen hyfforddi drylwyr. “

“Mae defnyddio Taser yn cael ei lywodraethu gan ganllawiau cenedlaethol ac mae swyddogion profiadol yn asesu’r bygythiad a’r risg a gyflwynir iddynt cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud i ddefnyddio un. Bob tro y defnyddir Taser, rydym yn adolygu'r defnydd hwnnw i sicrhau bod polisi wedi'i ddilyn ac i nodi unrhyw bryderon. "

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel, “Mae ein swyddogion heddlu dewr yn rhoi eu bywydau ar y lein i’n hamddiffyn ni i gyd ac mae Taser yn opsiwn hanfodol mewn sefyllfaoedd peryglus.

“Mae'r cyllid hwn yn rhan o'n hymrwymiad i sicrhau bod gan heddluoedd y pwerau, yr adnoddau a'r offer sydd eu hangen arnynt i gadw eu hunain a'r cyhoedd yn ddiogel.”

 

DIWEDD