13 Tach 2020

Ddydd Gwener 13/11/20, ymwelodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn â Doc Penfro, i fynychu lansiad menter newydd Premier League Kicks yn yr ardal.

Cymerodd o gwympas 90 o bobl ifanc o ardal Doc Penfro ran yn y sesiwn gyntaf nos Wener a byddant yn parhau i gymryd rhan yn wythnosol. Yn ystod y sesiynau, bydd y bobl ifanc yn cymryd rhan mewn amrywiol weithgareddau ymarferol, megis sesiynau hyfforddi pêl-droed, yn ogystal â sesiynau anffurfiol sy'n mynd i'r afael â materion troseddau.

Mae'r Premier League Kicks yn rhad ac am ddim i bawb sy'n cymryd rhan, ac yn cael ei ariannu trwy'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd a'i redeg mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Gymunedol Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe.

Wrth fynychu'r sesiwn gyntaf nos Wener yn Ysgol Harri Tudor, Doc Penfro, dywedodd PCC Dafydd Llywelyn “Mae'n fraint imi fod yma ar y noson agoriadol, i weld drosof fy hun y dylanwad cadarnhaol y mae menter fel yr Premier League Kicks yn ei gael yr ieuenctid yma, a'r gymuned ehangach.

“Fel un sy’n frwd dros chwaraeon, ac ar ôl chwarae pêl-droed ar sawl lefel yn fy ieuenctid, rwy’n gwbl ymwybodol o’r dylanwad y mae chwaraeon ac ymarfer corff yn ei gael ar iechyd a lles unigolion a chymunedau yn gyffredinol.

“Bydd y fenter hon yn cael effaith gadarnhaol ar y dref ac yn enwedig y ieuenctid dan sylw ac rwy’n dymuno pob lwc iddynt.”

Dywedodd yr Uwcharolygydd Ross Evans sydd wedi bod yn arwain ac yn cydlynu sefydlu’r fenter yn lleol yn Noc Penfro ar ran Heddlu Dyfed-Powys “Rydym yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth ag Premier League Kicks a’u croesawu i Sir Benfro am y tro cyntaf.

“Mae lansiad y cynllun hwn yn hwb enfawr i bobl ifanc yn Noc Penfro a hefyd i’r ardal leol ei hun.

“Hoffwn ddymuno pob lwc i bawb sy’n cymryd rhan, rydym i gyd yn gobeithio y byddant yn manteisio i’r eithaf ar y cyfle gwych hwn i gael hyfforddiant am ddim gan frand byd-enwog”.

Mae'r fenter yn cael ei rhedeg trwy raglen genedlaethol 'Kicks' Uwch Gynghrair Lloegr, ac mae'n cael ei darparu'n lleol gan Ymddiriedolaeth Gymunedol Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe. Nod y rhaglen yw defnyddio pêl-droed a chwaraeon yn gyffredinol i ysbrydoli ieuenctid sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig.

Dywedodd Craig Richards o Ymddiriedolaeth Gymunedol Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe “Mae Premier League Kicks yn darparu sesiynau pêl-droed wythnosol am ddim a gweithdai addysgol i bobl ifanc, gan roi cyfleoedd, cefnogaeth a llwybrau iddynt gyrraedd eu potensial llawn a’u dargyfeirio i ffwrdd o droseddu neu droseddwyr. Roedd yn bleser croesawu Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn i sesiwn Seaside Kicks i weld cymaint o bobl ifanc yn cael hwyl fawr mewn amgylchedd diogel”.

Mae’r CHTh Dafydd Llywelyn hefyd yn ariannu'r un fenter yn ardal Llanelli mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Gymunedol Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe. Dywedodd CHTh Dafydd Llywelyn: “Lansiwyd Seaside Kicks yn Llanelli ym mis Ionawr eleni, i ennyn diddordeb ieuenctid ardal Glanymor a Tyisha mewn gweithgareddau cadarnhaol. Mae mwy na 150 o bobl ifanc yr ardal yn cymryd rhan yn wythnosol gyda'r Seaside Kicks, ac rwy'n falch o weld yr effaith y mae'r cynllun yn ei chael ar bobl ifanc yr ardal, ac yn disgwyl gweld yr un peth yma yn ardal Doc Penfro. ”.

 

DIWEDD

Nodiadau i'r golygydd

  • Niferoedd cyfyngedig oherwydd iecyd a diogelwch ond mae 90 o blant lleol i fod i gymryd rhan
  • Bydd glanweithyddion yn cael eu defnyddio
  • Rhieni yn methu aros a gwylio ar hyn o bryd
  • Mae'r fenter i gyd yn rhad ac am ddim, wedi'i hariannu gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd, ac mae'n adeiladu ar lwyddiant y cynllun yn ardal Glan Môr yn Llanelli, sydd hefyd wedi'i ariannu gan y Comisiynydd.

 

Rhagor o Fanylion:

Gruff Ifan

Ymgynghorydd Polisi ac Ymgysylltu

Gruffudd.Ifan.OPCC@dyfed-powys.pnn.police.uk