25 Hyd 2019

Mae eich Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn, wedi cyhoeddi adroddiad yn dilyn ei adolygiad o gyswllt cyntaf y cyhoedd â'r heddlu, ac mae'n ystyried y dylai cyswllt y cyhoedd "fod yn addas ar gyfer y diben i'n cymunedau" yn y dyfodol.

Mae adolygiad y Comisiynydd o Gyswllt Cyntaf y Cyhoedd â Heddlu Dyfed-Powys, a oedd yn cynnwys ymgynghoriad cyhoeddus, hefyd wedi ei osod yn erbyn symudiad cenedlaethol at gyswllt â'r heddlu wedi ei ddigidoli yn y dyfodol agos. Fodd bynnag, â phoblogaeth Dyfed-Powys yn heneiddio, a chanran uchel o gymunedau gwledig sydd heb eu cysylltu'n ddigidol ar hyn o bryd, mae'r Comisiynydd yn pwysleisio bod angen i unrhyw strategaeth roi ystyriaeth ddyledus i hyn wrth symud ymlaen.

Er bod 87% o ymatebion i'r holiadur wedi'u derbyn ar-lein, roedd nifer yr ymatebwyr sy'n awyddus i fedru adrodd am drosedd drwy gyfryngau cymdeithasol yn y dyfodol yn is na'r disgwyl. Mae preswylwyr Heddlu Dyfed-Powys dal yn ffafrio cysylltiad wyneb yn wyneb a dulliau cyswllt mwy traddodiadol.

Dywed y Comisiynydd Dafydd Llywelyn:

“Roeddwn i eisiau darganfod sut a pham rydych chi'n cysylltu â'r Heddlu, ac wrth gysylltu â'r Heddlu, pa un ai a oeddech chi'n teimlo ei fod yn hawdd cael mynediad at y gwasanaeth. Diolch i bawb a gymerodd yr amser i gwblhau'r arolwg.

“Un o'r blaenoriaethau a nodais yn fy Nghynllun Heddlu a Throseddu yw sicrhau eich bod chi'n derbyn gwasanaeth hygyrch ac ymatebol gan eich gwasanaeth heddlu. Gan hynny, yn hollbwysig, rwyf eisiau gweld pa un ai a oes angen unrhyw welliannau.

 

“Mae canfyddiadau'r adolygiad hwn yn dangos i ni na all Heddlu Dyfed-Powys gynnal y sefyllfa bresennol mewn perthynas â rheoli cyswllt â'r cyhoedd. Er y bydd newidiadau digidol newydd yn y dyfodol i ddiwylliant cyswllt cyntaf y cyhoedd, a fydd yn cyflwyno manteision, rwy’n sicr na all Heddlu Dyfed-Powys ddiystyru’r canran uchel o'i breswylwyr sydd ddim yn barod i ddibynnu’n llwyr ar gyswllt digidol. Credaf fod angen archwilio'n llawn i ymagwedd fwy personol tuag at gyswllt a darparu'n briodol ar gyfer hyn."

Mae'r adolygiad hefyd yn cydnabod y pwysau enfawr y mae Heddlu Dyfed-Powys, a heddluoedd eraill ar draws Prydain, yn wynebu gan fod pobl yn cysylltu â'r heddlu fel cam cyntaf. Mae'n bosibl fod hyn yn ymwneud â diffyg eglurder o ran sut a pham y dylai'r cyhoedd gysylltu â'r heddlu, yn ogystal â diffyg argaeledd, gallu neu ymateb gan asiantaethau eraill mwy addas.

Mae diffyg eglurder ar gyfer y cyhoedd wedi cyfrannu at gynnydd o ran galw yng Nghanolfan Gyfathrebu'r Heddlu, lle y mae galwadau i Heddlu Dyfed-Powys yn cael eu hateb a'u trin. Yn ogystal, mae hyn wedi arwain at amserau aros hirach wrth i bobl alw’r rhif difrys 101. Mae'r cyhoedd wedi nodi mai hyn yw'r prif rwystr ar gyfer cysylltu â'r heddlu, sydd ag effaith andwyol ar hyder y cyhoedd yn yr heddlu.

Ychwanegodd Dafydd Llywelyn: “Rwy'n gwerthfawrogi'n llwyr fod angen ymdrin â phwysau aruthrol galwadau cynyddol i Ganolfan Gyfathrebu'r Heddlu ar frys, ac rwy'n falch bod gwaith sylweddol yn cael ei drefnu er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn.

“Rwyf wedi ymrwymo i fonitro cynnydd y Prif Gwnstabl yn erbyn yr argymhellion a nodir o fewn yr adroddiad drwy adolygiadau chwarterol o gynnydd, gyda'r nod o roi mwy o dawelwch meddwl i'r cyhoedd. Rwy'n fodlon o'n trafodaethau cychwynnol y bydd fy argymhellion yn cael eu gweithredu."

Dyma linyn diweddaraf ymagwedd newydd well tuag at ymrwymiad parhaus y Comisiynydd i ddal yr Heddlu i gyfrif am gyflwyno gwasanaeth heddlu effeithiol ac effeithlon i breswylwyr Dyfed-Powys. Mae'r Comisiynydd wedi cynnal dau adolygiad tebyg o'r blaen, a oedd yn edrych ar ddefnydd swyddogion heddlu o rym, ac ymagwedd yr Heddlu tuag at fynd i'r afael â chyffuriau anghyfreithlon. Roedd y ddau adolygiad yn cynnwys agwedd ymgynghoriad cyhoeddus, a arweiniodd at yr Heddlu'n gwneud rhai gwelliannau yn y meysydd hyn.