04 Ebr 2019

Datganiad i’r Wasg

04/04/2019

Heddlu Dyfed-Powys yn arwain y ffordd wrth gefnogi dioddefwyr twyll sy'n agored i niwed

 

Yr wythnos hon cyhoeddodd yr HMICFRS adroddiad - ‘Fraud: Time to Choose’ - sy'n nodi bod problemau ar lefel y DU ar hyn o bryd o ran y ffordd yr ymchwilir i dwyll, ac nad yw dealltwriaeth lluoedd yr heddlu ohono yn gyffredinol yn ddigon trylwyr.

 

Yn y cyfamser, mae Heddlu Dyfed-Powys yn achub y blaen yng Nghymru a Lloegr o ran mynd i'r afael â thwyll a chefnogi dioddefwyr sy’n agored i niwed. Cafodd Operation Signature - menter genedlaethol arloesol sydd â'r nod o leihau twyll yn ein cymunedau a rhoi cymorth ychwanegol i ddioddefwyr twyll sy'n agored i niwed - ei chydnabod yn arfer gorau gan Gyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu. Mae Operation Signature yn ceisio adnabod a chynnig cymorth i ddioddefwyr twyll sydd fwyaf agored i niwed, yn aml yn seiliedig ar oedran y dioddefwr.

 

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn:

"Rwy'n falch iawn bod Op Signature yn Nyfed-Powys yn cael ei chydnabod yn genedlaethol fel arfer gorau. Mae hyn yn dyst ein bod wedi ymroi i helpu'r rhai sy'n agored i niwed sy'n cael eu targedu gan dwyll. Rwyf wedi ymrwymo i godi ymwybyddiaeth o dwyll, a dyma oedd testun fy Nghynhadledd Dydd Gŵyl Dewi flynyddol eleni. Rwyf hefyd yn ariannu Swyddog Diogelu Twyll penodedig sy'n rhan o Dîm Troseddau Ariannol Heddlu Dyfed-Powys - rhywbeth nad yw pob Heddlu yn y DU yn ei gynnig”.

Mae busnesau hefyd yn aml yn cael eu targedu gan dwyll, ac mewn ymateb i hyn, mae Heddlu Dyfed-Powys yn trefnu cyfres o ddigwyddiadau 'Diogelu eich Busnes ' er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r modd y mae troseddwyr cyfundrefnol yn gallu targedu busnesau, a beth y gellir ei wneud er mwyn osgoi cael eu targedu. Bydd y Comisiynydd yn annerch y digwyddiad nesaf ar 10 Ebrill, a gynhelir mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth.

Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Anthony Evans, sydd yn arwain y digwyddiad yn Aberystwyth:

"Mae'n bwysig i ni gefnogi busnesau yn y cyfnod hwn sy’n fwyfwy heriol o ran bygythiadau. Dyma pam rydym yn cynnig digwyddiad o’r fath - mae’n gyfle i wneud yn siŵr bod busnesau’n barod i wynebu'r heriau. Rydym yn annog busnesau i fanteisio ar y cyfle hwn – gall hyn fod y peth gorau y gwnewch i’ch cwmni eleni”.

Diwedd

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Catrin Howells Lloyd, Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu: catrin.howells-lloyd.opcc@dyfed-powys.pnn.police.uk <mailto:catrin.howells-lloyd.opcc@dyfed-powys.pnn.police.uk> neu (01267) 226 454

Am ragor o wybodaeth am y digwyddiad ‘Diogelu eich Busnes’ yn Aberystwyth ar 10 Ebrill, ewch i: https://www.eventbrite.co.uk/e/digwyddiad-diogelu-eich-busnessafeguarding-your-business-event-tickets-57596948022