26 Tach 2019

Comisiynydd Dafydd Llywelyn, Prif Gwnstabl Mark Collins, Prif Uwch-arolygydd Thorhallur Ólafsson o Heddlu Gwlad yr Iâ, (chwith pellaf) Ricky Turner, Rheolwr Teledu Cylch Cyfyng

Comisiynydd Dafydd Llywelyn, Prif Gwnstabl Mark Collins, Prif Uwch-arolygydd Thorhallur Ólafsson o Heddlu Gwlad yr Iâ, (chwith pellaf) Ricky Turner, Rheolwr Teledu Cylch Cyfyng

Comisiynydd Dafydd Llywelyn a Prif Uwch-arolygydd Thorhallur Ólafsson

Comisiynydd Dafydd Llywelyn a Prif Uwch-arolygydd Thorhallur Ólafsson

Yn amlwg, mae’r system teledu cylch cyfyng (TCC) sydd newydd ei hailosod ar draws ardal Dyfed-Powys yn destun cenfigen i’r byd plismona yn rhyngwladol – wrth i Heddlu Gwlad yr Iâ benderfynu teithio i Ddyfed-Powys fel rhan o’u prosiect i addasu, adnewyddu a moderneiddio eu system TCC eu hun.

Roedd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, a Mark Collins, y Prif Gwnstabl, yn falch iawn o groesawu’r grŵp ac am y cyfle i drafod llwyddiant y system newydd gyda nhw. Pan addawodd Mr Llywelyn adeg yr etholiad y byddai’n ailosod camerâu teledu cylch cyfyng yn yr ardal, roedd yn benderfynol o weld y prosiect yn dwyn ffrwyth. Yn awr, mae’n dda ganddo drosglwyddo dysgu a gwybodaeth i wasanaeth heddlu o wlad arall er mwyn iddynt efelychu system Dyfed-Powys.

Rhoddwyd taith i’r grŵp o gwmpas Pencadlys yr Heddlu, lle yr oedd modd iddynt weld â’u llygaid eu hun sut mae 123 camera’n cael eu monitro’n rhagweithiol o ystafell fonitro ganolog. Hefyd, cawsant gyflwyniadau ar weithredu’r system, sut maen nhw’n gwneud cymunedau mor ddiogel â phosibl, a’r effaith gadarnhaol mae’r isadeiledd yn cael ar blismona ar draws yr heddlu.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu: “Bu’n bleser mawr croesawu ein cydweithwyr o Heddlu Gwlad yr Iâ. Roeddent yn awyddus iawn i ddysgu am lwyddiant ein system newydd, a’r broses ar gyfer cyrraedd y sefyllfa rydyn ni ynddi nawr. Mae’r ffaith eu bod nhw wedi’u cynghori i ymweld â ni ar ôl gwneud ymholiadau’n genedlaethol yn fy ngwneud i’n falch iawn, ac yn dyst i lwyddiant y system. Roedd yn ddiddorol hefyd i drafod yr heriau maen nhw’n wynebu, yn ogystal â’r tebygrwydd rhwng ein gwledydd. Edrychaf ymlaen at glywed am eu cynnydd â’r prosiect ar ôl iddynt ddychwelyd adref, a pharhau â chyfeillgarwch lle y medrwn dal i ddysgu wrth ein gilydd.”  

Rhoddwyd cyflwyniadau i’r grŵp hefyd ar system adnabod rhifau ceir yn awtomatig Heddlu Dyfed-Powys, sy’n uchel ei pharch. Defnyddir y dechnoleg i helpu i ddatrys ac atal troseddolrwydd ac aflonyddu arno ar lefel leol, lefel heddlu, lefel ranbarthol a lefel genedlaethol, gan gynnwys mynd i’r afael â throseddwyr teithiol, grwpiau troseddu trefnedig a therfysgwyr. Mae’n darparu llinellau ymholi a thystiolaeth wrth ymchwilio i droseddau.

Ychwanegodd y Prif Gwnstabl Mark Collins: “Mae’n bleser bob amser estyn croeso cynnes i’n cydweithwyr o’r teulu heddlu dramor. Mae cymaint y gallwn ddysgu wrth ein gilydd, ac mae’n rhoi boddhad mawr i mi fod ein hisadeiledd TCC newydd a’n system adnabod rhifau ceir yn awtomatig werth teithio dros 1,000 o filltiroedd i’w profi a dysgu ohonynt. Mae’r isadeiledd newydd a’r tîm monitro’n arf amhrisiadwy yr ydym eisoes yn gwneud defnydd da ohono o fewn yr heddlu. Roedd modd i ni ddangos iddynt fod TCC yn cael effaith sylweddol ar ddod o hyd i unigolion coll, canfod pobl sy’n bygwth niweidio eu hunain, a dwyn materion i ganlyniad cadarnhaol. Roedd yn gyfle gwych i drafod sut y gall y prosiect gynorthwyo â datblygiadau mewn gwledydd eraill. Byddwn ni’n gwylio’r datblygiadau yn y byd hwn ar gyfer Heddlu Gwlad yr Iâ â diddordeb yn dilyn eu hymweliad.”

Gan adlewyrchu ar eu hymweliad, dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Thorhallur Ólafsson o Heddlu Gwlad yr Iâ: “Y rheswm dros yr ymweliad hwn yw ein bod ni’n mabwysiadu ac yn adnewyddu ein systemau camera yn ein prifddinas ac ar arfordir deheuol Gwlad yr Iâ. Roeddem yn gwybod bod y DU wedi dod yn bell iawn yn ei defnydd o’r dechnoleg hon, felly cysylltom â’r Llysgenhadaeth Brydeinig yn Reykjavik er mwyn cynnal ymholiadau a holi am y lle gorau ar gyfer dysgu am y systemau hyn. Cawsom ein cyfeirio at Heddlu Dyfed-Powys.

“Rydyn ni wedi derbyn llawer o gyflwyniadau yn ystod ein hamser ni yma, ac maen nhw wedi rhoi eu fframwaith cyfreithiol i ni. Maen nhw wedi bod yn hael iawn - roedd hyd yn oed cael hynny’n llwyddiant i ni. Rydyn i wedi gweld llawer o bethau newydd, sut rydych chi’n defnyddio’r systemau camera newydd, a’ch gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, ac rydyn i’n gobeithio mai hwn fydd y cam cyntaf i ni ar gyfer dod yn fwy gwybodus ynglŷn â hyn.

“Mae llawer o debygrwydd rhwng Cymru a Gwlad yr Iâ. Yr amodau i gychwyn - mae ein heddlu Metropolitanaidd wedi’i leoli ar lan y môr ac arfordir y de hefyd, felly wrth ddewis camerâu, rhaid eu bod nhw’n medru gwrthsefyll amodau trwm, gwael. Mae gennym ardaloedd gwledig a dinasoedd a threfi, ac mae Gwlad yr Iâ hefyd yn genedl bysgota ac amaethyddol fawr. Mae hi hefyd yn denu twristiaid, felly rwy’n credu bod llawer o debygrwydd rhyngom. Y tro hwn, taith fusnes yw hi, ond rwy’n credu mai’r daith gyntaf yn unig yw hon.”