30 Maw 2020

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn wedi rhybuddio trigolion Dyfed-Powys i fod yn wyliadwrus ac i fod yn effro i seiberdroseddu, yn enwedig sgamiau gwe-rwydo.

Daw ei rybudd wrth i Action Fraud UK yr wythnos diwethaf gyhoeddi 400% o gynnydd mewn achosion o dwyll sy’n gysylltiedig â Coronafirws. Rhwng 1af Chwefror a 18fed Mawrth 2020, derbyniodd Action Fraud 105 o adroddiadau gan ddioddefwyr twyll a oedd yn gysylltiedig â Coronafirws, gyda cholledion yn dod i gyfanswm o bron i £970,000.

Action Fraud yw canolfan alwadau twyll a throsedd rhyngrwyd genedlaethol y DU. Maent yn darparu pwynt cyswllt canolog i gael gwybodaeth am dwyll a throseddau rhyngrwyd a ysgogir gan arian.

Mae mwyafrif yr adroddiadau'n gysylltiedig â sgamiau siopa ar-lein lle mae pobl wedi archebu masgiau wyneb amddiffynnol, sebon dwylo, a chynhyrchion eraill, nad ydynt yn cael eu dosbarthu ac yn cyrraedd pobl. Mae mathau eraill o dwyll sy'n cael eu hadrodd arnynt yn cynnwys twyll tocynnau, twyll rhamant, twyll elusennol a thwyll benthyciadau.

Mae hefyd dros 200 o adroddiadau o negeseuon e-bost gwe-rwydo sy’n ymwneud â coronafirws. Mae'r rhain yn ceisio twyllo pobl i agor atodiadau maleisus a allai arwain at dwyllwyr yn dwyn gwybodaeth bersonol pobl, megis manylion mewngofnodi e-bost a chyfrineiriau, a manylion bancio.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, “Gall troseddwyr ddefnyddio’r Coronafirws i’ch twyllo i drosglwyddo eich arian a’ch gwybodaeth bersonol. Efallai y byddant yn cynnig eich profi am y firws, darparu brechlyn neu ofyn am roddion elusennol coronafirws.

 “Peidiwch â chael eich twyllo i roi mynediad i dwyllwyr i'ch manylion personol neu ariannol dros y ffôn, e-bost neu'n bersonol.

“Byddwch yn wyliadwrus o gysylltiadau heb wahoddiad fel hyn.

“Cymerwch bump, meddyliwch ddwywaith, meddyliwch twyll”.

I adrodd am dwyll neu i gael help a chyngor ar atal twyll, cysylltwch â Heddlu Dyfed-Powys trwy 101 neu ewch i Action Fraud ar-lein neu ffôniwch: 0300 1232040

DIWEDD