05 Gor 2019
Heddiw (5 Gorffennaf), cyhoeddodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, y bydd yn buddsoddi £50,000 yn wardiau Glan-y-môr a Thyisha.
Mae hyn yn dilyn ymgynghoriad diweddar lle tynnwyd sylw at nifer o bryderon diogelwch cymunedol, gan gynnwys presenoldeb cyffuriau yn yr ardal.
Cyhoeddodd y Comisiynydd ei fwriad yn ystod ymweliad â Llanelli wrth iddo gwrdd ag aelodau o’r gymuned a busnesau lleol.
Bydd y buddsoddiad yn wardiau Glan-y-môr a Thyisha’n cael ei ariannu drwy arian y mae Heddlu Dyfed-Powys yn ei dderbyn o dan y Ddeddf Enillion Troseddau, sy’n caniatáu i’r heddlu atafaelu neu adennill elw troseddau gan droseddwr.
Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu:
“Mae’n dda iawn gennyf gyhoeddi y byddaf yn buddsoddi £50,000 yng nghymunedau Glan-y-môr a Thyisha, gyda’r nod o wella diogelwch y gymuned. Drwy ail-fuddsoddi enillion troseddau yn ein cymunedau, rwy’n hyderus y bydd yn cael effaith gadarnhaol ar wardiau Glan-y-môr a Thyisha, ac yn helpu preswylwyr i deimlo’n ddiogel.
“Rwy’n bwriadu buddsoddi mewn prosiectau a mentrau diogelwch cymunedol a fydd yn ymateb i faterion lleol cyfredol. Mae’n bwysig bod y buddsoddiad yn cael ei ysgogi gan y gymuned leol. Rwy’n edrych ymlaen at weithio’n agos â’r gymuned, partneriaid lleol a’r heddlu wrth ddatblygu hyn.”
Diwedd
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r datblygiadau o ran buddsoddiad y Comisiynydd, cysylltwch â Jessica Williams yn Swyddfa’r Comisiynydd:
opcc@dyfed-powys.pnn.police.uk
01267 226440
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â rôl Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, galwch heibio i’r wefan ar http://www.dyfedpowys-pcc.org.uk/cy/y-comisiynydd/rôl-y-comisiynydd-yr-heddlu-a-throseddu/.