09 Gor 2020

Bydd trigolion y Drenewydd yn cael cyfle i bleidleisio dros ba brosiectau cymunedol ddylai gael arian ychwanegol yn dilyn buddsoddiad gan Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys Dafydd Llywelyn.

Cynhelir digwyddiad rhithiol ar 11 Gorffennaf, a fydd yn gweld pobl yn dweud eu dweud ynglŷn â sut y rhennir yr £20,000 rhwng grwpiau sydd wedi gwneud cais am gyllid.

Daw’r arian o fuddsoddiad o £140,000 gan Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys Dafydd Llywelyn i’r timau plismona bro, gyda chyllid ychwanegol gan sefydliadau yn ardal y Drenewydd.

Dywedodd Mr Llywelyn: “Mae’n wych gweld bod cyfanswm o 21 cais wedi’u cyflwyno gan grwpiau cymunedol yn ardal y Drenewydd ar gyfer y cyllid. Yr wyf wedi ymrwymo i ariannu’r ymagwedd newydd ac arloesol hon tuag at gyllido cymunedau oherwydd rwy’n credu ei fod yn bwysig bod preswylwyr lleol yn cael lleisio’u barn am y ffordd y mae arian yn cael ei wario yn eu hardal.

“Nhw sydd yn y sefyllfa orau i weithio gyda’r heddlu, ac asiantaethau partner eraill, er mwyn nodi ble mae angen yr arian a beth fyddai o’r budd mwyaf i’r cymunedau lleol.”

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Ifan Charles, arweinydd yr heddlu ar gyfer cyllidebu cyfranogol, “Hwn yw’r digwyddiad cyntaf o’i fath yr ydym wedi’i gynnal yn Nyfed-Powys, ac rydym yn fodlon â’r diddordeb mawr gan grwpiau sy’n gwneud cais i gymryd rhan.

“Gofynnwyd i sefydliadau ddangos sut y gallai eu prosiect wella diogelwch cymunedol a hyrwyddo cymuned iachach a mwy diogel yn y Drenewydd.

“Mae gennym 21 cynnig, gyda cheisiadau’n dod i gyfanswm o £62,000 – fodd bynnag, dim ond £20,000 sydd gyda ni yn y pot. Bydd y gymuned yn awr yn penderfynu pa gynigion fyddai fwyaf buddiol ar gyfer pobl sy’n byw yn ardal y Drenewydd.

“Drwy ei wneud fel hyn, yr ydym yn rhoi mwy o gyfle i bobl ddweud eu dweud am y modd y mae eu cymuned yn esblygu.”

Cynhelir y digwyddiad yn y Drenewydd ar 11 Gorffennaf. Gyda chymorth Mutual Gain, sefydlwyd system bleidleisio ar-lein. 

Mae Mr Llywelyn wedi addo rhoi £140,000 i 14 tîm plismona bro. Bydd y timoedd yn gwario’r arian o fewn y cymunedau maen nhw’n gwasanaethu. 

Bydd pob un o’r 14 Tîm Plismona Bro ar draws yr ardal heddlu’n derbyn £10,000 i’w wario ar brosiectau. Bydd y cymunedau eu hun yn benderfynwyr allweddol o ran y ffordd y mae’r arian yn cael ei glustnodi.

Gyda chymorth Cyngor Tref y Drenewydd a Llanllwchaearn, Tai Canolbarth Cymru, Tai Cymru a'r Gorllewin a Thai Newydd, mae’r pot arian yn y Drenewydd wedi’i ddyblu i £20,000.

Mae Tîm Plismona Bro’r Drenewydd wedi gweithio gyda phartneriaid er mwyn sefydlu grŵp FLOW y Drenewydd (Ariannu Cymunedau Lleol Drwy Gydweithio) i weithio gyda grwpiau cymunedol ar y broses ymgeisio.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Charles, “Yr ydym yn edrych ymlaen at weld canlyniadau’r bleidlais, a chanfod pa brosiectau fydd yn medru cefnogi’r gymuned â’u gwaith da.

“Yn dilyn digwyddiad y Drenewydd, bydd yr Arolygydd Matthew Price a minnau’n cynnal hyfforddiant ledled yr ardal heddlu fel bod modd cynnal digwyddiadau tebyg.

“Mae cyllidebu cyfranogol wedi gweithio’n dda iawn mewn mannau eraill, ac rwyf yn edrych ymlaen at arwain cyflwyno’r prosiect fan hyn.”

*Am ragor o wybodaeth am gymryd rhan yn nigwyddiad y Drenewydd, galwch heibio i dudalen Facebook FLOW Newtown