Cyfiawnder Adferol yw pan mae dioddefwyr a throseddwyr yn cyfathrebu mewn amgylchfyd gyda chefnogaeth i drafod y niwed a achoswyd, gan alluogi pawb yr effeithiwyd arnynt gan ddigwyddiad penodol i chwarae rhan mewn atgyweirio’r niwed a chanfod ffordd gadarnhaol ymlaen.

Dim ond os bydd y dioddefydd a’r troseddwr yn dymuno cymryd rhan, ac os bydd hwylusydd hyfforddedig yn penderfynu bod hynny’n ddiogel y bydd Cyfiawnder Adferol yn digwydd.

Yn aml bydd Cyfiawnder Adferol yn digwydd drwy gyfarfod, lle bydd dioddefydd yn cwrdd wyneb yn wyneb â’i droseddwr. Pan nad yw cyfarfod wyneb yn wyneb yn briodol, gall y dioddefydd a’r troseddwr gyfathrebu drwy lythyrau, cyfweliadau wedi eu recordio neu fideo. Mae’n broses sy’n rhoi’r awenau yn nwylo’r dioddefydd, gan roi cyfle i’r unigolyn hwnnw geisio atebion gan ei droseddwr. Mae gan hyn gyfradd bodlonrwydd o 85%, ac mae dioddefwyr wedi teimlo rhyddhad, eu bod wedi eu grymuso a’u bod yn gallu rhoi’r profiad y tu ôl iddynt yn dilyn cyfarfod â’u troseddwr. I droseddwyr, gall hyn eu helpu i ddeall y niwed a achoswyd ac effaith eu hymddygiad, gan roi cyfle iddynt wneud yn iawn am hynny.

Yn 2018 yn ardal Dyfed-Powys, dwedodd 100% o’r bobl a gymerodd ran mewn Cyfiawnder Adferol y byddent yn ei argymell i eraill, a nododd 100% bod y gefnogaeth a gawsant yn rhagorol.

 Dyfyniadau

"Rydw i mor falch fy mod i wedi ei wneud. Rwy’n teimlo mai fi sy’n rheoli eto a fy mod i’n gallu rheoli fy emosiynau. Dydw i ddim eisiau unrhyw beth arall ganddyn nhw. Fy mhenderfyniad i oedd peidio â chael ymddiheuriad y troseddwr.”

“Rwy’n teimlo’n gadarnhaol am yr holl beth. Gan ein bod ni’n byw mewn cymuned fechan mae’n debygol iawn y byddwn ni’n taro mewn i’n gilydd. Rwy’n gwybod ein bod ni’n gallu gweld ein gilydd yn gyhoeddus a dweud helo a cherdded ymlaen. Cyn hyn, doedd e ddim yn gwybod a doeddwn i ddim yn gwybod beth fyddai’n digwydd. Nawr rydyn ni’n dau’n gwybod.”

“Roedd yr hwylusydd yn wych. Gwrandawodd gymaint. Rhoddodd hyn ollyngdod mawr i mi gan fod yr hwylusydd yn niwtral ac ar wahân i’r drosedd.”

“[Hoffwn ddweud] pa mor wych oedd yr hwylusydd, bob amser yn fy ffonio i, yn gwneud yn siŵr fy mod i’n iawn.”

 

Os hoffech chi wybodaeth bellach ynghylch Cyfiawnder Adferol, cysylltwch â: 

Ffôn symudol:  07526997796

E-bost:  Restorativejustice.stc@justice.gov.uk /  nicola.rees@justice.gov.uk