Rhwymedi Cymunedol  

Beth yw hyn? 

  • Rhestr o gamau gweithredu y gall rhywun sydd wedi ymddwyn yn wrthgymdeithasol neu gyflawni tramgwydd troseddol lefel is eu cyflawni.  
  • Mae angen i’r unigolyn gyfaddef ei fod yn gyfrifol.   
  • Dylai’r rhestr o gamau gweithredu geisio unioni’r hyn a wnaed o’i le neu helpu’r unigolyn i feddwl am yr ymddygiad a gwneud dewisiadau gwell.  
  • Mae’n golygu na fydd yr unigolyn yn mynd i’r llys am y trosedd hwn.  

 

Sut mae hyn wedi newid? 

Yn 2023, mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu wedi: 

  • Ymgysylltu â’r cyhoedd, cynrychiolwyr cymunedol a Heddlu Dyfed-Powys. 
  • Edrych ar yr holl ymatebion. 
  • Ysgrifennu’r rhestr o ddewisiadau Rhwymedi Cymunedol.  
  • Cytuno ar y rhestr o ddewisiadau gyda’r Prif Gwnstabl.  

 

Beth yw’r dewisiadau ar gyfer Dyfed-Powys? 

Noder: Ceir manylion llawn am y dewisiadau isod ac am sut y gellir eu defnyddio yn yr Adroddiad Rhwymedi Cymunedol.  

  1. Iawndal am y difrod  
  2. Rhaglenni Cymorth Dibyniaeth ar Alcohol / Camddefnyddio Sylweddau  
  3. Cyrsiau Addysgol, Dargyfeiriol a / neu Reoli Dicter  
  4. Gweithgaredd Dargyfeirio Cam-drin Domestig  
  5. Cyflafareddu  
  6. Ymddiheuriad llafar neu ysgrifenedig  
  7. Llofnodi Cytundeb Ymddygiad Derbyniol  

 

Pryd y gellir ei ddefnyddio? 

  • Pan mae unigolyn yn cyfaddef i’w ymddygiad neu drosedd lefel is; a 
  • Phan mae rhywun yn cytuno i dderbyn datrysiad cymunedol neu rybudd amodol (a elwir hefyd yn warediad y tu allan i’r llys). 

 

Pwy yw’r dioddefydd? 

  • Yr unigolyn sydd wedi’i effeithio gan yr ymddygiad gwrthgymdeithasol neu dramgwydd troseddol lefel is yw’r dioddefydd.  

 

Pwy yw’r troseddwr? 

  • Y troseddwr yw’r unigolyn sydd wedi ymddwyn yn wrthgymdeithasol neu gyflawni tramgwydd troseddol lefel is.  

 
Beth yw Datrysiad Cymunedol?  

  • Cytundeb yw hwn rhwng y dioddefydd a’r troseddwr.  
  • Ni fydd yr unigolyn yn mynd i’r llys ar gyfer y cytundeb hwn.  
  • Rhaid i’r heddlu weld bod y troseddwr yn wirioneddol flin am ei weithredoedd ac yn credu ei fod eisiau newid ei ymddygiad.   
  • Ni all yr heddlu orfodi’r cytundeb. 

Beth yw Rhybudd Amodol? 

  • Rhybudd ffurfiol yw eich bod chi wedi gwneud rhywbeth o’i le yw’r rhybudd hwn. 
  • Bydd gan rybudd amodol un neu fwy o gamau gweithredu y mae’n rhaid i’r unigolyn eu cyflawni. 
  • Os na fydd unigolyn yn gwneud yr hyn y mae wedi dweud y bydd yn ei wneud, mae’n bosibl y bydd yn cael ei gymryd i’r llys.  

 

Sut ydw i’n holi amdano? 

  • Cyn penderfynu pa gamau gweithredu y mae’n rhaid i’r unigolyn eu bodloni, dylai’r un sy’n gwneud y penderfyniad terfynol (yr heddlu fel arfer) ofyn i’r dioddefydd am ei farn.  
  • Os oes mwy nag un dioddefydd ac mae ganddynt farn wahanol, dylid ystyried yr holl safbwyntiau cyn gwneud y penderfyniad terfynol.