08 Maw 2024

Mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys (SCHTh) Dafydd Llywelyn wedi sicrhau cyllid o bron i £800,000 o Gronfa Strydoedd Mwy Diogel 5 y Swyddfa Gartref, drwy gydweithio’n agos â phartneriaid profiadol i ddatblygu sawl ymyriad cadarn.

Cyflwynodd SCHTh gyfanswm o bum cais am gyllid i gronfa Strydoedd Mwy Diogel 5, yn dod I gyfanswm o bron I £1miliwn.  Fodd bynnag, yn dilyn toriadau cyllid gan y Swyddfa Gartref, mae dyfarniad adolygiedig nawr yn £795,481.

Roedd y pum cais yn cynnwys naw menter ymyrraeth sy’n mynd i’r afael â Thrais yn Erbyn Menywod a Merched, ac un menter ymyrraeth sy’n mynd i’r afael â’r tri math o drosedd, Troseddau Caffaeliadol, Trais yn Erbyn Menywod a Merched, ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol trwy ymyriadau amrywiol.

Mae’r partneriaid yn cynnwys Awdurdodau Lleol a phartneriaid cam-drin domestig profiadol.

Mae'r mentrau'n cynnwys;

  • Rhaglen Gwyliwr Theatr mewn Addysg i Ysgolion wedi'i hanelu at fyfyrwyr 14-18 oed sydd wedi ei gynllunio ar gyfer newid normau cymdeithasol drwy herio ymddygiad annymunol;
  • Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Bregusrwydd a Gwylwyr, wedi'i anelu at unigolion 16-23 oed mewn Addysg Uwch ac Addysg Bellach i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o normau cymdeithasol sy'n gysylltiedig â thrais yn erbyn menwyod;
  • Rhaglen Man Culture/Man Ally wedi'i hanelu at ddynion dros 24 oed, gyda'r bwriad o greu rhwydwaith o ddynion yn cynnwys yr heddlu, partneriaid, ac arweinwyr busnes yn y gymuned a all helpu i leihau trais yn erbyn menywod trwy ddod yn wylwyr gweithredol. a darparu arf ymarferol i gynyddu teimladau o ddiogelwch;
  • Ap Cerdded yn Ddiogel/Cadw'n Ddiogel i gyd-fynd â'r offeryn adrodd Stryd Ddiogel Ar-lein presennol o fewn yr heddlu. Mae'n galluogi defnyddwyr i gynllunio llwybrau gwahanol neu ddod o hyd i le diogel. Mae'r ap yn caniatáu i ddefnyddwyr roi amcangyfrif o'u hamser cyrraedd ac os na fyddant yn cyrraedd mewn pryd, bydd eu cysylltiadau brys yn cael eu hysbysu o'u lleoliad. Mae yna hefyd system rybuddio Tap Safe sy'n caniatáu i bobl anfon signal at eu cysylltiadau os ydyn nhw mewn trafferth;
  • Rhaglen Trechu Ymddygiad Annerbyniol Taclo'r Taclau, gyda'r nod o wella dealltwriaeth a hyder y cyhoedd ar atal a/neu ymateb i drais yn erbyn menywod ac atal mewn mannau cyhoeddus. Mae'r ymyriad hwn hefyd yn ystyried effaith gymunedol trais yn erbyn menywod;
  • My Safe Place, sef ymyriad a ddatblygwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin i ddarparu cymorth caledu targedau ar gyfer Dioddefwyr Cam-drin Domestig, a menter ar y cyd gan Bystander Intervention Plus rhwng Gwasanaeth Cam-drin Domestig Gorllewin Cymru, Gwasanaethau Cam-drin Domestig Sir Gaerfyrddin, Canolfan Argyfwng Teuluol Trefaldwyn a Threshold, fydd yn canolbwyntio ar 38 o ardaloedd ar draws Dyfed-Powys. Mae'r ymyriad hwn yn ymgorffori Timau Plismona Bro i sicrhau ymyrraeth gynnar;
  • Teledu Cylch Cyfyng ychwanegol ar gyfer tref Aberystwyth yng Ngheredigion;
  • Cymunedau Cysylltiedig, dan arweiniad Cyngor Sir Penfro a fydd yn darparu addysg ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan ganolbwyntio'n benodol ar droseddau amgylcheddol;
  • Y Ganolfan Merched dan arweiniad The Nelson’s Trust, a fydd yn datblygu ymyrraeth i greu man diogel i ddioddefwyr benywaidd a/neu gyflawnwyr dderbyn cefnogaeth briodol i fynd i'r afael â'u hanghenion sylfaenol a lleihau aildroseddu.

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn; “Mae sicrhau wyth can mil o bunnoedd o gyllid ar gyfer mentrau ymyrraeth sy’n targedu trais yn erbyn menywod a merched, troseddau meddiangar ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cynrychioli ein hymrwymiad di-baid i ddiogelwch a lles ein cymunedau.

“Mae’r buddsoddiad hwn yn tanlinellu ein hymroddiad i weithio ar y cyd â phartneriaid lleol i ddod o hyd i atebion rhagweithiol, ac rwy’n edrych ymlaen at weld effaith y mentrau hyn wrth i ni weithio i sicrhau cymunedau diogelach a mwy gwydn i bawb”.

DIWEDD

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk