20 Gor 2018

Dafydd Llywelyn yn croesawu panel o arbenigwyr i'r Fforwm Troseddu Gwledig yn Sioe Frenhinol Cymru

Dyfed-Powys yw'r ardal heddlu fwyaf yng Nghymru a Lloegr, gyda llawer o’i thiriogaeth yn syrthio o fewn ardaloedd mewndirol gwledig ac ardaloedd cefn gwlad arfordirol. Gellir ystyried troseddau sy’n digwydd o fewn yr ardaloedd hyn, ac yn wir ar draws llawer o ehangdir Cymru, yn droseddau gwledig. Mae troseddau gwledig yn aml yn gymhleth ac yn amlochrog, ac yn anodd eu monitro ac i ymchwilio iddynt. 

Mae'r Fforwm yn croesawu cydweithwyr o asiantaethau partner ar draws Cymru i eistedd gyda Dafydd Llywelyn ar banel i drafod, deall ac ymgysylltu gyda phartneriaid, rhanddeiliaid ac aelodau o gymunedau gwledig ar faterion troseddau bywyd gwyllt a materion gwledig yng Nghymru. 

Dywedodd Dafydd Llywelyn: "Fel swyddogion etholedig ac uwch-gynrychiolwyr ein sefydliadau, mae gennym gyfrifoldeb i wrando ar bryderon ynghylch diogelwch cymunedol, trosedd a chyfiawnder, ac ymdrin â nhw.

Gyda’n gilydd, gallwn weithio i gynnig gwell gwasanaethau i’r mannau pwysicaf hynny - ein cymunedau."

 

Cliciwch ar y dolennau isod am ragor o wybodaeth.