25 Mai 2023

Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn wedi cadarnhau cyllid ar gyfer gwasanaeth lleol arbenigol i ddarparu cymorth i ddioddefwyr ffyrdd yn ardal Dyfed-Powys ar gyfer y flwyddyn nesaf (2023-24).

Daw’r cyllid wrth i ffigurau a gyhoeddwyd yn ddiweddar gadarnhau bod 19 o bobl wedi’u lladd mewn gwrthdrawiadau ar y ffyrdd yn Nyfed-Powys yn 2021, tra bod llawer mwy wedi dioddef anafiadau difrifol.

Mae'r gwasanaeth cymorth yn rhan o Wasanaeth Dioddefwyr Ffyrdd Cenedlaethol sy'n cael ei redeg gan yr elusen diogelwch ffyrdd Brake. Mae Brake yn rhedeg gwasanaeth ledled y DU sy’n cefnogi teuluoedd ac unigolion sydd wedi cael profedigaeth neu sy’n dioddef o anaf a newidiodd eu bywydau yn dilyn gwrthdrawiad ffordd yn y DU, ac ar gyfer dinasyddion y DU sydd wedi cael profedigaeth neu wedi’u hanafu ar ffyrdd dramor.

Bydd y cyllid gan y Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn yn darparu’r gwasanaeth Eiriolwr Dioddefwyr Ffyrdd Annibynnol cyntaf yng Nghymru, gan ddarparu gwasanaeth lleol, dynodedig i drigolion Dyfed-Powys.

Mae’r Eiriolwr Dioddefwyr Ffyrdd Annibynnol yn weithiwr achos proffesiynol, hyfforddedig sy’n gallu ymweld â phobl yn eu cartref i ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnynt pan fydd y gwaethaf yn digwydd. Bydd yr eiriolwr yn helpu dioddefwyr ffyrdd i ddeall effaith trawma, dod o hyd i gefnogaeth arbenigol a ddarperir gan sefydliadau eraill, a'u helpu gyda materion ymarferol fel cyllid, cymorth cyfreithiol a dychwelyd i'r gwaith.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn; “Yn anffodus, mae gwrthdrawiadau ffyrdd yn gyffredin yma yn Nyfed-Powys, er gwaethaf gwaith rhagweithiol ein Huned Plismona’r Ffyrdd, Gwylio Cyflymder Diogelwch Cymunedol, a Gan Bwyll.

“Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i yrru’n ddiogel a pharchu defnyddwyr eraill y ffyrdd. Ni ddylid derbyn y gyfradd anafiadau a welsom yma yn 2019 ac rwyf wedi ymrwymo i leihau’r ystadegau hyn a’r gost ddynol ofnadwy gysylltiedig.

“Ni allaf ddechrau dychmygu’r trawma a brofir gan deuluoedd sy’n dioddef profedigaeth neu anaf sy’n newid bywyd mewn gwrthdrawiad ffordd a gobeithio, trwy ariannu’r gwasanaeth hwn a ddarperir gan Brake, y gallwn helpu i leddfu rhywfaint o’r dioddefaint, yr ofn a’r ansicrwydd hwnnw i ddioddefwyr yn Nyfed-Powys.”

Dywedodd Jami Blythe, Rheolwr Datblygu gyda Brake: “Diolch i gyllid gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, mae Brake yn gallu ymestyn gweithrediad y Gwasanaeth Dioddefwyr Ffyrdd Cenedlaethol i’r ardal leol hon. Bydd y cyllid yn helpu dioddefwyr damweiniau ffordd yn Nyfed-Powys i ymdopi â'r sioc, y cythrwfl a'r dinistr y mae damweiniau ffordd yn ei achosi i deuluoedd. Bydd yr Eiriolwr Dioddefwyr Ffyrdd Annibynnol yn gweithio gyda theuluoedd lleol i ddarparu'r cymorth hanfodol sydd ei angen arnynt. Rydym yn hynod ddiolchgar i fod yn rhan o ymrwymiad y Comisiynydd i gefnogi anghenion dioddefwyr damweiniau ffordd.”

Mae Brake hefyd yn cynnal nifer o ddigwyddiadau ac ymgyrchoedd blaenllaw trwy gydol y flwyddyn gan ganolbwyntio ar atal ac ymgysylltu, megis Wythnos Genedlaethol Diogelwch Ffyrdd, Taith Gerdded Plant a Diwrnod Bîp Bîp. Gallwch ddarllen mwy am eu hymgyrchoedd yma.

DIWEDD

Rhagor o fanylion:

Gruff Ifan

Penaeth Cyfathrbeu ac Ymgysylltu

Gruffudd.ifan@dyfed-powys.police.uk