06 Maw 2019

 

Mae’r gwaith bron wedi ei gwblhau wrth osod camerâu teledu cylch cyfyng yn y tair tref olaf yn Sir Benfro.

Bydd cyfanswm o ddeg o gamerâu wedi eu gosod - pedwar ym Mhenfro, pedwar yn Noc Penfro a dau yn Aberdaugleddau.

Penderfynwyd ar leoliadau’r camerâu yn dilyn adolygu dadansoddiad o batrymau troseddu ac mewn ymgynghoriad gydag asiantaethau partner eraill.

Maent yn nodi cwblhau’r prosiect TCC yn Sir Benfro.

Cyflawnwyd y gwaith gan y contractwyr Baydale Control Systems Ltd fel rhan o’r rhaglen ail-fuddsoddi yn nheledu cylch cyfyng sy’n cael ei llywio gan addewid allweddol Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn: “Mae cwblhau’r gwaith o osod TCC yn Sir Benfro’n nodi cam arwyddocaol yn y prosiect cymhleth hwn.”

“Rydw i wrth fy modd yn gweld fy addewid i’r cyhoedd yn dwyn ffrwyth ac yn gobeithio y bydd cymunedau’n teimlo’r budd o gael y dechnoleg newydd a gwell hon yn helpu diogelu eu trefi.”

Mae dros 120 o gamerâu’n cael eu gosod mewn 17 tref ar draws ardal yr heddlu, sef Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Phowys.

Dechreuodd y gwaith yn Llanfair-ym-Muallt yng Ngorffennaf 2018 ac y mae’n symud ymlaen yn dda.

Mae Ystafell Fonitro TCC hefyd yn cael ei chyflwyno yng Nghanolfan Gyfathrebu’r Heddlu ym Mhencadlys yr Heddlu, Llangynnwr, a fydd yn caniatáu i gamerâu gael eu monitro’n ganolog gan staff penodedig.

Ceir gwybodaeth bellach ynghylch lleoliadau’r camerau ar wefan Heddlu Dyfed-Powys.

Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y prosiect TCC yma. https://tinyurl.com/y2gmepyy