16 Tach 2021

Ddydd Iau, Tachwedd 11eg, cynhaliodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn, sawl apwyntiad ymgysylltu yn Hwlffordd, pan gyfarfu â nifer o grwpiau cymunedol a dderbyniodd arian trwy ei fenter Cyllidebu Cyfranogol ynghyd â mynychu digwyddiad agoriadol ar gyfer Caffi Rhif 5 yn y dref.

Yn 2020-2021, buddsoddodd y Comisiynydd £140,000 yn y fenter a welodd £10,000 yn cael ei ymrwymo i bob ardal plismona bro yn Dyfed-Powys.

Mae Cyllidebu Cyfranogol yn ffordd o roi mwy o lais i gymunedau o ran sut mae arian yn cael ei wario yn eu hardaloedd lleol. Yn ystod blwyddyn ariannol 2020-2021, cynhaliwyd digwyddiadau Cyllidebu Cyfranogol rhithiol cymunedol llwyddiannus ar draws pob un o'r pedair ar ddeg o ardaloedd plismona cymdogaeth yn ardal heddlu Dyfed-Powys. Gofynnwyd i grwpiau cymunedol a oedd yn ceisio am arian gyflwyno fideo yn arddangos eu syniadau prosiect, a phenderfynodd cynrychiolwyr cymunedol pwy ddylai dderbyn yr arian. Elwodd dros 100 o grwpiau cymunedol ar gronfeydd o dros £200,000.

Pan yn Hwlffordd ddydd Gwener, cyfarfu Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd â chynrychiolwyr o sawl grŵp cymunedol a dderbyniodd rywfaint o'r cyllid, gan gynnwys Caffi Get the boys a lift, Ysgol Uwchradd Havefordwest High ac Oriel VC Gallery.

Derbyniodd caffi Get the Boys a Lift, gyllid i sicrhau eu bod yn dal i allu cynnig cefnogaeth gwnsela hanfodol trwy gydol y cyfnod cloi, er bod eu caffi ar gau i'r cyhoedd. Derbyniodd Ysgol Hwlffordd gyllid i brynu offer radio a stiwdio I’r Ysgol i'w disgyblion fel rhan o'u sesiynau ar ol ysgol - Lles Dydd Gwener.

Dywedodd y Comisiynydd Dafydd Llywelyn, “Y llynedd, ymrwymais i ariannu’r dull newydd ac arloesol hwn o ariannu cymunedol gan fy mod yn credu ei bod yn hanfodol bod trigolion lleol yn cael dweud eu dweud ynglŷn â sut mae arian yn cael ei wario yn eu hardal leol.

“Maen nhw yn y sefyllfa orau i weithio gyda’r heddlu, ac yn wir asiantaethau partner eraill, i nodi lle mae angen yr arian a beth fyddai fwyaf buddiol i’r cymunedau lleol. Rwy'n mwynhau mynd i gwrdd â phob un o'r grwpiau hyn i weld drosof fy hun sut mae'r gymuned leol yn elwa o'r cyllid hwn. "

DIWEDD

Mwy o wybodaeth

Ffion Davies

Ffion.davies@dyfed-powys.pnn.police.uk