05 Maw 2020

Ym mis Mawrth 2020, am yr ail flwyddyn yn olynol, dyfarnwyd Marc Ansawdd Tryloywder i Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, arwydd o safon ansawdd uchel mewn perthynas â thryloywder strwythurau llywodraethu a chyhoeddi gwybodaeth.

Adolygodd CoPaCC, arbenigwyr llywodraethu’r heddlu, gallu Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd i gyflawni eu cyfrifoldebau tryloywder statudol yn y lle cyntaf flwyddyn ar ôl etholiadau cyntaf y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu. Eleni dyfarnwyd y marc Ansawdd Tryloywder i 28 Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.

Aseswyd pob Swyddfa yn ystod misoedd Tachwedd a Rhagfyr 2019 gydag ymchwilydd CoPaCC yn gweithredu fel ‘siopwr cudd’ yn chwilio am y wybodaeth ofynnol ar wefan pob Swyddfa er mwyn gweld sut mae Comisiynwyr yn cyflawni eu cyfrifoldebau statudol am dryloywder fel yr amlinellir yng Ngorchymyn Cyrff Plismona Lleol Etholedig (Gwybodaeth Benodedig) 2011.

Mae CoPaCC wedi cyhoeddi, er gwaethaf trothwy pasio uwch a’r meini prawf ‘rhwyddineb defnydd’ newydd, hy, pa mor hawdd yw hi i aelod o’r cyhoedd ddod o hyd i’r wybodaeth, bod 28 Swyddfa allan o’r 32 a aseswyd, wedi cyrraedd y safon ofynnol ar gyfer y Marc Ansawdd 'Agored a Thryloyw' 2020, gan gynnwys Swyddfa Comisiynydd Trosedd a Heddlu Dyfed-Powys.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, “Gallwch fod yn hyderus fy mod yn cyflawni fy nghyfrifoldebau cyhoeddi, gan fod fy swyddfa hefyd wedi derbyn Marc Ansawdd Cenedlaethol CoPaCC ar gyfer Tryloywder yn ystod 2018/19. Mae'r swyddogaeth gydymffurfio yn fy swyddfa yn sicrhau y gweithredir ar unrhyw newidiadau a diweddariadau i ddeddfwriaeth a bod gan aelodau'r cyhoedd lwybr i ofyn am wybodaeth sydd gennym. Fel un o 28 swyddfa i gael y wobr, mae fy swyddfa wedi profi eu bod yn darparu gwybodaeth amserol, cyson a chlir, sy’n dangos eu hymroddiad I dryloywder.”

Dywedodd Paul Grady, Pennaeth Heddlu Grant Thornton, darparwyr sicrwydd a noddwyr Marc Ansawdd Tryloywder CoPaCC “O’m rhan i, mae’r Swyddfeydd hyn i gyd wedi dangos eu bod yn dryloyw yn yr hyn a wnânt, gan fodloni gofynion cyfreithiol perthnasol. Maent yn cyflwyno gwybodaeth allweddol mewn fformat hygyrch ar eu gwefannau. Rwy'n eu llongyfarch i gyd ar eu gwaith, ac edrychaf ymlaen at yr hyn yr wyf yn ymddiried ynddo a fydd yn waith rhagorol parhaus gan bob un ohonynt yn y maes hwn.”