16 Medi 2021

Ddydd Iau, 16 Medi, croesawodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn cerbyd Project Edward i ardal Heddlu Dyfed-Powys fel rhan o'i daith wythnos o amgylch y DU i godi ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar y ffyrdd.

Roedd yr ymweliad yn rhan o ddiwrnod ymgysylltu cymunedol penodol yr oedd Comisiynydd Dafydd Llywelyn yn ei drefnu ar ddiogelwch ar y ffyrdd, lle roedd sawl cyfarfod a gweithgaredd wedi’u trefnu yn Sir Gaerfyrddin gyda phartneriaid gan gynnwys yr awdurdod lleol, GoSafe, Heddlu Dyfed-Powys a Phrosiect Edward.

Mae Prosiect Edward, sy'n acronym ar gyfer Every Day Without A Road Death, yn ymgyrch diogelwch ffyrdd flynyddol genedlaethol sy’n cael ei chefnogi  gan y llywodraeth, y gwasanaethau brys, asiantaethau priffyrdd, sefydliadau diogelwch ar y ffyrdd a busnesau ar draws Prydain. Thema ymgyrch wythnos 2021 rhwng 13eg Medi a 17eg o Fedi oedd ‘Fit for the Road’, ac roedd y trefnwyr yn annog pobl i arwyddo addewid Project Edward, er mwyn cadarnhau eu parodrwydd i chwarae rhan wrth sicrhau diogelwch ar y ffyrdd.

Dywedodd y Comisiynydd Dafydd Llywelyn; “Mae diogelwch ar y ffyrdd yn fater mor bwysig, ac yn un y gallwn ni i gyd chwarae ein rhan ynddo trwy fyfyrio ar y risgiau rydyn ni'n eu hwynebu a'r risgiau rydyn ni'n eu peri i eraill. Gellir lleihau neu symud llawer o'r risgiau hyn yn gyfan gwbl os ydym yn sicrhau ein bod mewn cyflwr da pan rydym yn rhoi ein hunain y tu ôl i'r llyw, a'n bod yn talu sylw i'r cerbydau a ddefnyddiwn a'u cyflwr.

“Mae ein ffyrdd wedi bod yn gynyddol brysur dros fisoedd yr haf ers i fesurau cloi leihau. Nawr gyda mwy o bobl yn dychwelyd i'r gwaith, ysgolion a cholegau ar agor ar gyfer y tymor newydd, mae lefelau traffig yn uchel, ac rydym yn ffodus iawn i gael Uned Plismona Ffyrdd rhagweithiol yma yn Dyfed-Powys, sy'n gweithio'n ddiflino i sicrhau amgylcheddau diogel ar ffyrdd Dyfed-Powys.

“Roedd hi'n fraint cael croesawu cerbyd Project Edward i Pont Abraham, ac rwy'n ddiolchgar i’r holl  bartneriaid eraill, gan gynnwys GoSafe, Cyngor Sir Caerfyrddin a’r gwasanaethau brys, am gefnogi’r gweithgareddau a gynlluniwyd ar gyfer fy Niwrnod Ymgysylltu Cymunedol”.

Yn ogystal â chroesawu Prosiect Edward i ardal yr Heddlu yn ystod ei Ddiwrnod Ymgysylltu â'r Gymuned, bu'r Comisiynydd Dafydd Llywelyn yn cwrdd â Lee Waters AS, y Diprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Cynghorwyr lleol a gwirfoddolwyr Gwylio Cyflymder Cymunedol yn Dafen, Llanelli, un o'r wyth ardal breswyl sy'n treialu cynllun newydd arfaethedig Cymru i gyflwyno cyfyngiadau 20mya ym mhob ardal breswyl o 2023 ymlaen.

Bu'r Comisiynydd hefyd yn cymryd rhan yng ngweithdai Megadrive Cyngor Sir Caerfyrddin yn Ysgol y Strade, i hyrwyddo diogelwch ar y ffyrdd ymysg gyrwyr newydd, cyn ymweld ag Uned Plismona Ffyrdd Dyfed-Powys yn Cross Hands. Daeth y diwrnod i ben gyda digwyddiad Project Edward yn Ngwasanaethau Pont Abraham.

Dywedodd Rheolwr Partneriaeth GoSafe, Teresa Ciano; “Mae GoSafe yn gweithio’n ddiflino trwy gydol y flwyddyn i leihau marwolaethau ar y ffyrdd. Mae wythnos Prosiect EDWARD yn wythnos allweddol ar gyfer diogelwch ar y ffyrdd, wrth i bartneriaid a chydweithwyr o bob rhan o Gymru a'r DU weithio gyda'i gilydd i hyrwyddo'r rhan y mae'n rhaid i ni i gyd ei chwarae i wneud ein ffyrdd yn fwy diogel i bawb.

“Roedd GoSafe yn falch o fod yn bresennol gyda Chomisiynydd yr Heddlu a Throsedd gan ei fod yn codi ymwybyddiaeth o Ddiogelwch Ffyrdd yn ein cymunedau a Phrosiect EDWARD, ac yn ddiolchgar am ei gefnogaeth barhaus i godi ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar y ffyrdd trwy gydol y flwyddyn.

“Roedd ein gweithgareddau trwy gydol yr wythnos yn cyfrannu at ein huchelgais i weld dyfodol lle mae pob diwrnod yn ddiwrnod heb farwolaeth ar y ffordd.”

 

 

DIWEDD

Rhagor o fanylion:

Gruff Ifan

Ymgynghorydd Polisi ac Ymgysylltu

Gruffudd.ifan@dyfed-powys.pnn.police.uk