04 Awst 2023

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn yn parhau i geisio sicrwydd gan y Prif Gwnstabl Dr. Richard Lewis bod Heddlu Dyfed-Powys yn arfer eu pwerau stopio a chwilio yn foesegol ac yn gymesur yn dilyn cyhoeddi adroddiad Stopio a Chwilio blynyddol yr Heddlu.

Datgelodd yr adroddiad fod Heddlu Dyfed-Powys wedi cynnal 9,129 o achosion o Stopio a Chwilio, gan gynnwys cerbydau yn ystod blwyddyn ariannol 2022/23, o gymharu â 2,686 ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22. Mae hyn yn gynnydd o 240%.

Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn yn adolygu’r modd y mae Stopio a Chwilio yn cael ei arfer fel rhan o’i gyfrifoldeb i gynnal hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd mewn plismona. Yn gynharach eleni ym mis Mai, pan gyflwynodd Heddlu Dyfed-Powys eu hadroddiad blynyddol ar bwerau stopio a chwilio i’r Comisiynydd mewn cyfarfod o’r Bwrdd Plismona, gofynnodd Mr Llywelyn am sicrwydd bod mesurau’n mewn lle gyda Heddlu Dyfed-Powys i sicrhau bod y defnydd o Stopio a Chwilio yn effeithiol ac yn briodol.

Ar ôl cael ei benodi’n Brif Gwnstabl yn 2021, ymrwymodd Dr Richard Lewis i sicrhau bod ardal Dyfed-Powys yn mynd yn elyniaethus i’r rhai sy’n delio â chyffuriau, gan osod yr ymrwymiad hwn fel un o’i dair blaenoriaeth ar gyfer yr Heddlu. Mae’r adroddiad blynyddol Stopio a Chwilio yn dangos mai’r seiliau chwilio a ddefnyddiwyd fwyaf yn ystod 2022/23 oedd Adran 23: Deddf Camddefnyddio Cyffuriau. Roedd hyn yn cyfrif am 71% o'r 9,129 o chwiliadau a gynhaliwyd yn ardal Heddlu Dyfed-Powys. Arweiniodd 16% o'r stopiau a oedd yn ymwneud â chyffuriau at arestiad.

Arweiniodd 26% o'r holl chwiliadau a gynhaliwyd gan Heddlu Dyfed-Powys at ganlyniad cadarnhaol. Mae canlyniadau cadarnhaol yn ddatrysiadau a ganiatawyd ond maent hefyd yn ystyried canlyniadau adferol (addunedau cymunedol).

Roedd 93% o’r holl ryngweithio yn ystod archwiliadau Stopio a Chwilio yn cynnwys defnyddio Fideo ar y Corff (Body Worn Video) i gofnodi rhyngweithiadau rhwng swyddogion ac aelodau’r cyhoedd. Defnyddir rhain i ddogfennu'r broses yn weledol ac i ddarparu tryloywder ac amddiffyniad i'r swyddogion a'r unigolyn (unigolion) dan sylw.

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn: “Ers cyhoeddi adroddiad blynyddol stopio a chwilio yr Heddlu, rwyf wedi cael fy herio’n aml ar y data mae’n ei ddangos, a chwestiynau o ran os yw Dyfed-Powys yn arfer eu pwerau yn foesegol ac yn gymesur ai peidio.

“Yn ogystal ag yn ystod cyfarfod y Bwrdd Plismona ym mis Mai eleni, cyfeiriwyd ato mewn cyfarfod diweddar o Fwrdd Atebolrwydd Plismona’r mis hwn a chyfarfod o’r Panel Plismona a Throseddu.

“Rwy’n deall y gallai fod gan rai aelodau o’r cyhoedd bryderon ar ôl gweld y cynnydd sylweddol yn nifer y chwiliadau sy’n cael eu cynnal gan Heddlu Dyfed-Powys. Fodd bynnag, yr wyf yn hyderus, ac wedi cael sicrwydd gan y Prif Gwnstabl, er gwaethaf y cynnydd, fod Heddlu Dyfed-Powys yn arfer eu pwerau’n gyfrifol, yn foesegol ac yn gymesur.

“Nid yw’r cynnydd yn amlder y chwiliadau sy’n cael eu cynnal yn adlewyrchiad o dargedu diwahaniaeth neu ragfarnllyd. Yn hytrach, mae'n dangos ymroddiad diwyro i gynnal diogelwch y cyhoedd trwy ddulliau rhagweithiol.

“Mae daearyddiaeth ardal Dyfed-Powys yn unigryw o gymharu â Heddluoedd eraill yng Nghymru a Lloegr. Mae’n ffinio â their ardal heddlu arall ac o’r herwydd, mae llawer o weithgarwch trawsffiniol o ran ymwelwyr a throseddoldeb teithiol.

“Mae lefel y craffu ar gofnodion stopio a chwilio yn helaeth ac yn drylwyr. Mae heddluoedd yn gweithredu o dan ganllawiau llym sy'n blaenoriaethu egwyddor cymesuredd. Mae pob achos o stopio a chwilio wedi’i seilio ar sail resymol o amheuaeth, ac mae’n ofynnol i swyddogion ddarparu sail resymegol glir dros eu gweithredoedd. Mae'r Heddlu yn cadw cofnodion cynhwysfawr o'r holl weithrediadau stopio a chwilio, gan sicrhau atebolrwydd a'n galluogi i fynd i'r afael ag unrhyw faterion a all godi.

“Nid yn unig y mae fy Swyddfa yn craffu ar y cofnodion ac yn eu hadolygu, ond maent hefyd yn cael eu hadolygu’n annibynnol gan aelodau’r cyhoedd sy’n gwirfoddoli ar ein Grŵp Cynghori Annibynnol, a’r Panel Sicrhau Ansawdd.

“Dylai’r adolygiadau helaeth sy’n cael eu cynnal o amgylch stopio a chwilio dawelu meddwl y cyhoedd bod ymrwymiad i ddysgu o brofiadau’r gorffennol. Mae'r adborth a'r argymhellion o adolygiadau yn galluogi'r Heddlu i werthuso gweithdrefnau, canlyniadau a dulliau hyfforddi yn barhaus, fel y gallant fireinio eu hymagwedd a lleihau unrhyw gamddefnydd neu ragfarn posib”.

Cadarnhaodd Heddlu Dyfed-Powys i’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd fod pob cofnod chwiliad yn cael ei adolygu gan Ringyll i sicrhau bod ansawdd y cofnod chwilio i’r safon ofynnol a bod y seiliau a’r pŵer chwilio a ddefnyddir yn gywir. Mae hapsamplau o gofnodion chwilio sy'n ymwneud â phobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig hefyd yn cael eu cynnal yn rheolaidd i sicrhau nad oes unrhyw anghymesuredd penodol.

Dywedodd y Prif Arolygydd Chris Neve, arweinydd stopio a chwilio Heddlu Dyfed-Powys: “Gall stopio a chwilio chwarae rhan bwysig iawn wrth ganfod ac atal trosedd ac rwy’n gobeithio bod y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu yn deall hynny.

“Fodd bynnag, rwy’n ymwybodol bod ein cymunedau am ein gweld yn defnyddio’r pŵer hwn mewn ffordd deg ac effeithiol er mwyn i ni fynd i’r afael â materion y maent yn dod ar eu traws yn rheolaidd yn eu pentref neu dref ar draws ardal Heddlu Dyfed-Powys.

“I’r perwyl hwnnw, gallaf roi sicrwydd i’r cyhoedd bod gennym ni fel heddlu bellach fesurau llym ar waith sydd wedi creu craffu rheolaidd ac effeithiol ar ein defnydd o stopio a chwilio, sy’n cynnwys paneli craffu mewnol ac allanol, yn ogystal â chyhoeddi ein data stopio a chwilio i’r cyhoedd.

“Mae’r fforymau hyn bellach yn caniatáu inni ddeall yn iawn beth sy’n gweithio’n dda, ddim cystal a sut y gallwn ymgorffori proses gwbl dryloyw sy’n rhoi hyder i’r rhai rydym yn eu gwasanaethu.

“Byddwn yn parhau i ddefnyddio’r pwerau sydd ar gael i ni er mwyn dod â’r rhai sy’n ceisio achosi niwed ar draws ardal yr heddlu o flaen eu gwell, ond wrth wneud hynny byddwn yn parhau i sicrhau ein bod yn gweithio’n galed i gynnal ymddiriedaeth a hyder ein cyhoedd.”

Bydd cofnodion Stopio a Chwilio yn cael eu hadolygu nesaf gan Banel Sicrhau Ansawdd Dyfed-Powys, a’r Grŵp Cynghori Annibynnol ym mis Medi 2023 a byddant yn cael eu codi i’w hadolygu gan y Bwrdd Plismona eto yn ddiweddarach eleni.

I aelodau o’r cyhoedd sydd â diddordeb mewn bod yn aelodau o’r Grŵp Cynghori Annibynnol neu’r Panel Sicrhau Ansawdd, gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion ar wefan Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yma.

DIWEDD

Rhagor o fanylion:

Stop and Search | Dyfed-Powys Police

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk | Pressoffice@dyfed-powys.police.uk