11 Maw 2022

 

Ar Ddydd Mercher 9fed o Fawrth 2022, ymwelodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn â’r hen Orsaf Heddlu yng Nghydweli, Sir Gaerfyrddin sydd wedi’i thrawsnewid yn hwb ar gyfer Banc Bwyd lleol i’r gymuned.

Roedd Mr Llywelyn yn ymweld ag ardal Cydweli, fel rhan o Ddiwrnod Ymgysylltu â’r Gymuned, lle cyfarfu â staff a gwirfoddolwyr CETMA sy’n prydlesu Gorsaf Heddlu Cydweli gan Heddlu Dyfed-Powys i redeg banc bwyd ar gyfer cymunedau lleol.

Yn ogystal â rhedeg y banc bwyd lleol, mae CETMA yn ymwneud â nifer o brosiectau cymunedol gyda'r nod o wella'r ardal leol.

Mae’r Prosiect Megan a’r Sgwad Bwyd yn enghraifft o raglen addysgol a ddatblygwyd gan CETMA, ac a ariannwyd gan Sir Gâr. Nod y prosiect yw addysgu plant a phobl ifanc am fanteision tyfu bwyd, pwysigrwydd bwyta’n iach, ac effeithiau gwastraff bwyd ar ein hamgylchedd.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn, “Rydw I’n hynod falch o weld sut mae’r hen Orsaf Heddlu yma yng Nghydweli yn cael ei defnyddio, ac i weld drosof fy hun ei bod wedi datblygu i fod yn ganolbwynt hanfodol i’r gymuned leol, gyda’i banc bwyd a’r prosiectau cymunedol yn profi i gael effaith cadarnhaol ar fywydau pobl leol.

“Mae’n braf gweld ein Tîm Plismona Cymunedol yn ymgysylltu â’r staff a’r gwirfoddolwyr yn yr ardal a’u bod wedi datblygu perthynas gref gyda phartneriaid allweddol yn y Gymuned, a gobeithio y bydd y hwb banc bwyd yma yn yr hen Orsaf Heddlu yn mynd o nerth i nerth wrth iddo ddatblygu i fod yn adnodd hanfodol i’r ardal.”

Yn ddiweddarach yn y dydd, ymwelodd y Comisiynydd â Sefydliad John Burns yng Nghydweli, i ddysgu mwy am y rhaglenni cymunedol y maent yn eu rhedeg sy'n ceisio gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl leol.

Dywedodd Melanie Jones Rheolwr Datblygu Rhaglen Sefydliad John Burns: “Ar ôl cael ein hachredu’n ddiweddar fel Cyflogwr Cyflog Byw, rydym wedi cyfarfod â’r Comisiynydd droeon i drafod cyfleoedd rhanbarthol i gyflogwyr, ac rydym yn ddiolchgar iddo am ymweld â’n cyfleuster yma ym Mharc y Bocs, i drafod opsiynau ar sut y gallwn gydweithio yn y dyfodol er budd y gymuned.”

DIWEDD

Rhagor o fanylion:

Gruff Ifan

Ymgynghorydd Polisi ac Ymgysylltu

Gruffudd.ifan@dyfed-powys.police.uk

Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn gyda staff a gwirfoddolwyr CETMA yn hwb banc bwyd yr hen Orsaf Heddlu yn Cydweli.

Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn gyda staff a gwirfoddolwyr CETMA yn hwb banc bwyd yr hen Orsaf Heddlu yn Cydweli.

Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn a staff Sefydliad John Burns

Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn a staff Sefydliad John Burns