28 Chw 2022

Ddydd Iau, 24 Chwefror, ymwelodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn â Dafen, Llanelli i weld safle’r Ddalfa a’r Hwb Plismona newydd yn Sir Gaerfyrddin wrth i waith adeiladu ddechrau ar yr adeilad newydd.

Rhoddwyd caniatâd cynllunio i Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu gan Gyngor Sir Caerfyrddin yn ôl ym mis Ebrill 2021 ar gyfer y datblygiad arfaethedig, a fydd yn adeiladwaith cynaliadwy uchelgeisiol, gyda sgôr rhagoriaeth BREEAM.

Fodd bynnag, roedd y caniatâd cynllunio yn cynnwys nifer o amodau yr oedd yn rhaid eu bodloni cyn y gallai gwaith adeiladu ddechrau.

Mae Wilmott Dixon, sef y Contractwr Adeiladu, wedi bod ar y safle ers yr hydref yn paratoi ar gyfer y camau adeiladu cyntaf, gyda chynnydd penodol yn dechrau ar y datblygiad, y bwriedir ei gwblhau erbyn mis Mai 2023.

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn; “Mae hwn yn fuddsoddiad mawr i ni a fydd yn gweld canolfan blismona uchelgeisiol, modern, cynaliadwy sy’n addas i’r diben a dalfa a fydd yn bodloni anghenion a disgwyliadau plismona modern ac rwy’n falch o gadarnhau bod gwaith adeiladu wedi dechrau’n ddiweddar.

“Rwyf wedi gweithio’n galed iawn gyda phartneriaid dros y blynyddoedd diwethaf i sicrhau ein bod yn cyrraedd y sefyllfa hon ac roedd yn wych bod ar y safle yn Nafen i weld y cynnydd sy’n cael ei wneud gan y cwmni adeiladu.

“Yn ystod y broses ceisiadau cynllunio rhwng 2020 a 2021, fe wnaethom ymgysylltu’n eang â’r gymuned leol, ac wrth i’r gwaith adeiladu ddatblygu dros y misoedd nesaf byddwn yn edrych i wahodd cynrychiolwyr o’r gymuned leol i’r safle, i gael sesiwn friffio ar y datblygiad gwych hwn a fydd yn ein cefnogi ni i sicrhau bod gan Heddlu Dyfed-Powys gyfleuster addas at y diben yn Sir Gaerfyrddin.”

Gan ei fod yn ddatblygiad sy'n gysylltiedig â BREEAM, bydd yr adeilad newydd yn cynnig amgylchedd mwy cynaliadwy, sy'n anelu at wella llesiant y bobl sy'n gweithio ynddo, a helpu i ddiogelu adnoddau naturiol.

Ymhlith rhai o nodweddion cynaliadwy'r adeilad newydd bydd gosodiad pŵer solar ffotofoltäig i leihau ôl troed carbon yr adeilad; cyfleuster cynaeafu dŵr glaw ar gyfer toiledau a dŵr na ellir ei yfed, a chyfleusterau gwefru ceir trydan.

Dywedodd y Prif Arolygydd Richard Hopkin, arweinydd gweithredol Heddlu Dyfed-Powys ar yr adeilad newydd: “Rydym yn teimlo’n ffodus iawn i gael dalfa a hwb newydd yn dod i Lanelli.

“Mae ein hystâd bresennol yn Llanelli yn hen, felly mae gweld adeilad newydd sy’n cael ei ddylunio gyda’r fath ystyriaeth i’r amgylchedd a lles ein staff a’r gymuned y mae’n eistedd ynddi yn gadarnhaol iawn.

“Bydd y datblygiad yn darparu datrysiad addas i’r diben sy’n addas ar gyfer y dyfodol a fydd yn ategu sylfaen Tîm Plismona Cymunedol canol y dref. Mae hwn yn gam enfawr ymlaen i’r prosiect ac yn dod â ni’n sylweddol agosach at gyflwyno’r cyfleuster newydd.”

DIWEDD

Rhagor o wybodaeth:

Gruff Ifan

Ymgynghorydd Polisi ac Ymgysylltu

Gruffudd.ifan@dyfed-powys.police.uk

Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn ar Safle Adeiladu Dalfa a Hwb Plismona newydd Sir Gaerfyrddin, yn Dafen, Llanelli.

Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn ar Safle Adeiladu Dalfa a Hwb Plismona newydd Sir Gaerfyrddin, yn Dafen, Llanelli.