25 Chw 2022

Ddydd Llun 21 Chwefror, ymwelodd PCC Dafydd Llywelyn â Thalgarth, Y Gelli Gandryll ac Aberhonddu fel rhan o Ddiwrnod Ymgysylltu Cymunedol yn Ne Powys lle cafodd gyfle i drafod agweddau ar ei Gynllun Heddlu a Throseddu newydd ar gyfer Dyfed-Powys gyda chynrychiolwyr cymunedol lleol.

Yn Nhalgarth, cyfarfu’r Comisiynydd â rhai rheolwyr manwerthu i drafod pryderon ynghylch rhywfaint o ymddygiad gwrthgymdeithasol a’r cynnydd diweddar mewn mân ladrata. Tra yn y Gelli Gandryll, cyfarfu’r Comisiynydd â nifer o Gynghorwyr yn ogystal â Maer y Dref i nodi ffyrdd o weithio’n agosach gyda’r gymuned i fynd i’r afael â rhai o’r materion lleol.

Yn dilyn cyfarfod arall gyda Chynghorwyr yn Aberhonddu, ymwelodd y Comisiynydd â Gorsaf Heddlu Aberhonddu lle cafodd gyfle i drafod a chodi'r holl bryderon gyda'r Arolygydd lleol ar gyfer yr ardal.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn: “Roeddwn yn falch o allu bod allan mewn cymunedau lleol unwaith eto, yn rhyngweithio ac yn ymgysylltu’n bersonol â phobl. Roedd yn ddiwrnod ymgysylltu cadarnhaol iawn ar y cyfan, ac rwy’n ddiolchgar i’r Cynghorwyr am ddod ymlaen i drafod materion lleol gyda mi.

“Roedd yr adborth a gefais yn gadarnhaol, ac roedd yn wych clywed am effaith ein Tîm Plismona Cymunedol yn yr ardal. Yn ddealladwy roedd rhai pryderon ynghylch cynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ystod cyfyngiadau Covid-19, ond mae atal niwed a achosir trwy droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn un o’r blaenoriaethau yn fy Nghynllun Heddlu a Throseddu a, thrwy gymryd agwedd ragweithiol a phartneriaethol, rwy’n hyderus y byddwn yn creu cymunedau diogel ar draws Dyfed-Powys.

Aeth y Cynghorydd Sir lleol, William Powell, sydd hefyd yn aelod o Banel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, gyda’r Comisiynydd ar ei ddiwrnod ymgysylltu.

Dywedodd y Cynghorydd Powell: “Ar ôl y misoedd lawer o gloi, cyfyngiadau Covid-19 a chyfarfodydd rhithiol diddiwedd, roedd yn wirioneddol werth chweil i ymuno â Dafydd Llywelyn ar ei ddiwrnod ymgysylltu. Yn fy nghymuned fy hun yn Nhalgarth, roedd yn ddiddorol clywed am yr heriau dyddiol a wynebir gan weithwyr allweddol wrth gynnal y gyfraith. Roedd Cyd-Gynghorwyr yn y Gelli Gandryll ac Aberhonddu yn onest, o ran cydnabod plismona rhagweithiol, yn ogystal â’r meysydd hynny lle mae angen ysgogiad newydd, wrth edrych i gyflawni’r Cynllun Heddlu a Throseddu.’’

DIWEDD

Mwy o wybodaeth:

Gruff Ifan

Ymgynghorydd Polisi ac Ymgysylltu

Gruffudd.ifan@dyfed-powys.police.uk