07 Chw 2024

Ddydd Mawrth, Chwefror 6, roedd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Dafydd Llywelyn ar Ddiwrnod Ymgysylltu Cymunedol, yn atgyfnerthu cysylltiadau ac yn mynd i’r afael â phryderon lleol o fewn rhai o gymunedau Sir Benfro.

Dechreuodd y diwrnod gyda chyfarfod cynhyrchiol rhwng y CHTh a Thîm Troseddau Ieuenctid Sir Benfro, a oedd yn cydweithio â Swyddogion Heddlu School Beat yn Ysgol Uwchradd Hwlffordd, i gyflwyno sesiwn ‘Amser Troseddu’ effeithiol i fyfyrwyr Blwyddyn 8, gyda’r nod o ddatblygu ymwybyddiaeth a strategaethau atal.

Dilynwyd y gweithdy yn Ysgol Uwchradd Hwlffordd gan ymweliad â Phorthladd Doc Penfro, lle cynhaliwyd trafodaethau gyda swyddogion o uned Forol yr Heddlu ynghylch yr heriau a wynebir wrth blismona ardaloedd arfordirol Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin. Hefyd, cafodd y CHTh ddiweddariad ar daclo troseddau mewnfudo cyfundrefnol a’r gwaith sy’n cael ei wneud i ddiogelu ein ffiniau.

Gan barhau ag agenda'r diwrnod, ymgysylltodd y CHTh ag Uwcharolygydd Sir Benfro i drafod heriau lleol, a sut mae'r Heddlu'n lleol yn mabwysiadu ymagwedd blismona ragweithiol, ac yn sicrhau ymgysylltiad cyhoeddus effeithiol. Estynnodd y CHTh y sgwrs i strydoedd Dinbych-y-pysgod, lle ymunodd â swyddogion ar batrôl troed, gan ymgysylltu â busnesau lleol, gan gynnwys Tenby Stores, i drafod effaith troseddau manwerthu, yn enwedig dwyn o siopau, ar y dirwedd fasnachol.

Daeth y diwrnod i ben gyda sesiwn friffio ar droseddau gwledig gyda Thîm Troseddau Gwledig Sir Benfro Heddlu Dyfed-Powys yn Arberth. Roedd y trafodaethau’n canolbwyntio ar ymdrechion ar y cyd i gefnogi ac amddiffyn ein cymuned ffermio, gan amlygu’r rôl hollbwysig y mae’r Swyddogion yn ei chwarae wrth ddiogelu bywoliaethau gwledig.

Wrth fyfyrio ar ymrwymiadau'r diwrnod, pwysliesiodd CHTh Dafydd Llywelyn bwysigrwydd cydweithio cymunedol wrth fynd i'r afael â'r materion cyfredol. "Roedd fy niwrnod ymgysylltu cymunedol heddiw yn gyfle i wrando'n astud ar rai o'r pryderon a'r heriau a wynebir yn Sir Benfro. Mae ein partneriaeth â Thimau Troseddau Ieuenctid yn enghraifft o'n hymagwedd ragweithiol at rymuso ieuenctid ac atal troseddu, gan arfogi pobl ifanc â gwybodaeth a strategaethau i wneud dewisiadau cadarnhaol mewn bywyd. Trwy weithio ar y cyd â phartneriaid lleol, gallwn adeiladu cymunedau mwy diogel a mwy gwydn."

 

DIWEDD

Rhagor o wybodaeth: OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk