24 Gor 2023

Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu (CHTh) Dafydd Llywelyn yn ymweld â Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd yr wythnos hon ar gyfer trafodaethau allweddol gydag Undebau’r Amaethwyr, Gweinidogion y Llywodraeth a phartneriaid eraill ar faterion troseddau gwledig a thrais yn erbyn menywod a merched.

Gan gydnabod yr heriau unigryw a wynebir gan ardaloedd gwledig, yn enwedig yma yn Nyfed-Powys sef un o’r ardaloedd mwyaf gwledig o’r holl Heddluoedd yng Nghymru a Lloegr – bydd CHTh Llywelyn yn anelu at ddefnyddio’r digwyddiad allweddol hwn yn Llanfair-ym-Muallt fel cyfle i feithrin dealltwriaeth a chydweithio ymhlith rhanddeiliaid allweddol i fynd i’r afael â throseddau gwledig yn effeithiol ac ar y cyd.

Tra yn y Sioe, bydd CHTh Llywelyn yn cwrdd â’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Cynrychiolwyr o Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, Cydlynydd Troseddau Bywyd Gwyllt a Gwledig Cymru, a Thîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Dyfed-Powys i gael trafodaethau allweddol ar heriau troseddau gwledig yn ardal Dyfed-Powys a thu hwnt.

Bydd y CHTh hefyd yn siarad yn lansiad yr ymgyrch Nid yn fy Enw I i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched, tra hefyd yn cynnal cyfarfod gyda Phrif Weithredwr Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, Mr Phil Goulding, a fydd yn ymweld â’r Sioe.

Mae Sioe Frenhinol Cymru yn un o’r digwyddiadau mwyaf mawreddog o’i fath yn Ewrop ac mae’n un o ddigwyddiadau nodedig Cymru sy’n denu dros 200,000 o ymwelwyr i ardal Heddlu Dyfed-Powys o bob rhan o’r byd. O’r herwydd, gall canol tref Llanfair-ym-Muallt ddod yn amgylchedd heriol i’r gwasanaethau brys yn ystod yr wythnos – yn enwedig gyda’r nos. Bydd y CHTh yn ymweld â'r ganolfan reoli aml-asiantaeth yn Strand Hall i gwrdd â chynrychiolwyr o Grŵp Diogelwch Digwyddiadau Llanfair-ym-Muallt a phartneriaid golau glas eraill sydd wedi'u lleoli yno am yr wythnos i roi sylw i ddiogelwch ymwelwyr a thrigolion.

Dywedodd y Comisiynydd Dafydd Llywelyn: “Mae bob amser yn anrhydedd i fod yma yn Llanfair-ym-Muallt yn Sioe Frenhinol Cymru. Er ei bod hi’n sioe amaethyddol, mae rhywbeth yma at ddant pawb, ac rwy’n falch o’r croeso sydd bob amser yn cael ei gynnig yma i’r 200,000 o ymwelwyr a hoffwn longyfarch y trefnwyr a’r gymuned leol yn Llanfair-ym-Muallt.

“I mi, fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu, mae’r sioe hon yn gyfle i ymgysylltu â phartneriaid allweddol i fynd i’r afael â materion hollbwysig sy’n effeithio ar ein cymunedau gwledig. Mae’n hollbwysig ein bod yn trafod ac yn mynd i’r afael â mater trais yn erbyn menywod a merched – yn enwedig yn ein cymunedau gwledig. Drwy weithio law yn llaw â phartneriaid gallwn roi strategaethau ar waith sy’n hybu diogelwch, yn cefnogi dioddefwyr ac yn dal troseddwyr i gyfrif.

“Mae cael y trafodaethau adeiladol hyn gyda phartneriaid yn amhrisiadwy o ran adnabod cyfleoedd cydweithredol ac unigryw ac atebion ymarferol a all atgyfnerthu ein hymroddiad i wneud ardal Dyfed-Powys yn lle mwy diogel i bawb.”

DIWEDD

Rhagor o fanylion:

Gruff Ifan

Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Gruffudd.ifan@dyfed-powys.police.uk