25 Tach 2023

Heddiw mae’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn a’i Swyddfa, ynghyd â Heddlu Dyfed-Powys, yn falch o gefnogi Diwrnod y Rhuban Gwyn, sy’n nodi dechrau 16 diwrnod o weithredu yn erbyn trais gan ddynion yn erbyn menywod a merched.

Mae CHTh Dafydd Llywelyn a Phrif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys Richard Lewis wedi ymrwymo i fynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais yn erbyn menywod a merched.

Mae CHTh Llywelyn yn ei Gynllun Heddlu a Throseddu wedi ymrwymo i gomisiynu cymorth arbenigol i ddioddefwyr trais domestig a rhywiol, ac un o dair blaenoriaeth y Prif Gwnstabl Richard Lewis yw dileu cam-drin domestig.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae CHTh Dafydd Llywelyn wedi bod yn ymwneud â nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau allweddol ar Gam-drin Domestig yn arwain at Ddiwrnod y Rhuban Gwyn, gan gynnwys siarad mewn digwyddiad ar-lein i godi ymwybyddiaeth o CPA (Cam-drin Plant i Rieni) a mynychu cynhadledd yn Llundain i godi ymwybyddiaeth a rhoi mewnwelediad i gyflogwyr ar CPA a'r effaith ar gyflogeion.

Mae Cam-drin Plant i Rieni yn fath arbennig o gam-drin domestig, ac mae diffyg ymwybyddiaeth o’r math hwn o gam-drin yn ôl PCC Dafydd Llywelyn, sy’n rhywbeth y mae wedi bod yn awyddus i fynd i’r afael ag ef ers cael ei ail-ethol.

Yn 2021, ynghyd â phartneriaid o fewn ardal Dyfed Powys, mae Swyddfa CHTh Llywelyn wedi gweithio gyda sefydliad o’r enw PEGS (Parents Education Growth Support), i lywio a datblygu dogfen bolisi a chanllawiau rhanbarthol ynghylch cam-drin plentyn i riant.

Yn ogystal â hyn, mae pecyn hyfforddi cynhwysfawr wedi'i gyflwyno i ymarferwyr, gan gynnwys swyddogion heddlu, gwasanaethau a gomisiynir a phartneriaid trwy PEGS.

Mae’r hyfforddiant yn cynnwys ymwybyddiaeth o declyn asesu sy’n cael ei ddefnyddio gan Heddlu Dyfed-Powys i nodi presenoldeb cam-drin plentyn i riant, ac i lywio’r ymateb gweithredol.

Unwaith y bydd wedi'i nodi, mae CHTh Llywelyn wedi defnyddio Cronfa Cyflawnwyr Cam-drin Domestig y Swyddfa Gartref yn flaenorol i ddarparu sesiynau hyfforddi a rhaglen teulu cyfan o dan y faner Break for Change, sy'n gweithio gyda'r rhiant a'r plentyn gyda'i gilydd. Mae’r hyfforddiant hwn bellach yn cael ei ddarparu drwy brosiect unigryw o’r enw Ar Trac, sy’n cael ei ariannu drwy grant Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, a dyma’r prosiect cyntaf o’i fath yng Nghymru.

Yn ddiweddar mae CHTh Llywelyn hefyd wedi arwyddo’r Cyfamod Cam-drin Plant i Rieni ac mae’n annog sefydliadau eraill yn Nyfed-Powys i lofnodi.

Mae’r Cyfamod yn rhoi cyfle i gyflogwyr ledled y DU gydnabod Cam-drin Plant i Rieni fel math allweddol o gam-drin domestig, a dechrau cynnig cymorth i’w staff, gwirfoddolwyr, ac unrhyw ddefnyddwyr gwasanaeth neu aelodau o’r cyhoedd y maent yn dod i gysylltiad â nhw. Gall sefydliadau lofnodi’r Cyfamod p’un a oes ganddynt bolisïau a hyfforddiant staff presennol ar waith, neu yn gwbl newydd i’w taith o ddarganfod beth yw CPA a sut mae’n effeithio ar deuluoedd.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn: “Mae Diwrnod y Rhuban Gwyn yn ein hatgoffa’n deimladwy bod yn rhaid i ni uno yn erbyn pob math o drais yn erbyn menywod a merched.

“Wrth i ni ddechrau ar yr 16 diwrnod yma o weithredu, rydw i a fy Swyddfa yn falch o sefyll gyda Heddlu Dyfed-Powys yn ein hymrwymiad i fynd i’r afael â cham-drin domestig.

“Mae Cam-drin Plant i Rieni yn agwedd o’r mater hwn sy’n cael ei hanwybyddu’n aml, a’n dyletswydd ni yw codi ymwybyddiaeth.

“Mae ein hymdrechion, gan gynnwys yr hyfforddiant unigryw rydym yn ei ddarparu yn y maes hwn a llofnodi’r Cyfamod Cam-drin Plant i Rieni, yn gamau tuag at gymuned fwy diogel a gwybodus. Trwy gydweithio, gallwn greu newid parhaol a chefnogi’r rhai y mae’r mathau hyn o gam-drin yn effeithio arnynt”.

 

DIWEDD

Rhagor o fanylion:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk