20 Medi 2023
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn yn falch o gefnogi lansiad ymgyrch Wythnos Ymwybyddiaeth Cymunedau Diogelach gyntaf erioed Cymru. Mae’r ymgrych wythnos hon, sy’n cael ei gynnal rhwng 18 Medi a 22 Medi, yn ceisio tynnu sylw at ymrwymiad partneriaid cyfiawnder troseddol, ac eraill, i adeiladu a chynnal cymunedau mwy diogel ledled y rhanbarth.
Yn unol â’i weledigaeth fel yr amlinellwyd yn ei Gynllun Heddlu a Throseddu, gweledigaeth CHTh Llywelyn yw creu Dyfed-Powys o gymunedau diogel a ffyniannus. Mae’r wythnos hon yn gyfle i ni ailddatgan ein hymroddiad i’r weledigaeth hon, gan arddangos y cynnydd yr ydym wedi’i wneud a’r mentrau sy’n parhau i yrru ein hymdrechion yn eu blaenau.
Mae Cynllun Heddlu a Throseddu Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, a ddatblygwyd mewn ymgynghoriad agos â thrigolion Dyfed-Powys, yn amlinellu strategaeth gynhwysfawr i wella diogelwch cymunedol. Rydym yn parhau i fod yn ddiwyro yn ein hymrwymiad i leihau trosedd, gwella bywydau ein trigolion, a meithrin ymddiriedaeth rhwng partneriaid cyfiawnder troseddol a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu wedi gweithio'n benderfynol i sicrhau cyllid ar gyfer mentrau diogelwch cymunedol drwy Gronfeydd Strydoedd Mwy Diogel y Swyddfa Gartref. Mae'r mentrau hyn wedi chwarae rhan ganolog yn y gwaith o wneud ein cymunedau'n fwy diogel, yn fwy cydnerth ac wedi'u cysylltu'n well. Er mwyn cael cipolwg dyfnach ar y mentrau hyn a'u heffaith, rydym yn eich gwahodd i adolygu ein hadroddiad blynyddol diweddaraf, sydd ar gael yma. Mae’r adroddiad hwn yn rhoi trosolwg manwl o’n cyflawniadau, heriau, a nodau ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn: “Drwy gydol Wythnos Ymwybyddiaeth Cymunedau Diogelach Cymru, mae cyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn cael eu cynnal gyda’r nod o hybu diogelwch cymunedol a meithrin gwaith partneriaeth. Bydd y digwyddiadau hyn yn gyfle i ni gysylltu â rhai o’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, gwrando ar bryderon, a chydweithio ar atebion i fynd i’r afael â’u hanghenion.
“Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch hefyd i’n swyddogion ymroddedig, asiantaethau partner, ac aelodau’r gymuned sy’n gweithio’n ddiflino i wneud Dyfed-Powys yn lle mwy diogel i bawb. Gyda’n gilydd, gallwn barhau i adeiladu dyfodol lle mae pawb yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu gwerthfawrogi, ac wedi’u grymuso i ffynnu.”
I gael rhagor o wybodaeth am Wythnos Ymwybyddiaeth Cymunedau Diogelach Cymru ac i gael y wybodaeth ddiweddaraf am eu digwyddiadau, ewch i'w gwefan yma.
DIWEDD
Rhagor o fanylion:
Gruff Ifan
Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu