18 Rhag 2018

Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn, wedi lansio’i Fforwm Ieuenctid cyntaf yn ystod digwyddiad arbennig a gynhaliwyd yng Nghanolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin.

Lansiwyd Fforwm Ieuenctid ar gyfer plismona a throseddu’r Comisiynydd yn swyddogol ar ddydd Iau 13 Rhagfyr ac y mae’n pwysleisio ymrwymiad y Comisiynydd i wrando ar lais pobl ifanc. Mae’r Fforwm yn cynnwys Llysgenhadon Ieuenctid sydd rhwng 11-18 oed ac yn cynrychioli amrediad o grwpiau a sefydliadau ieuenctid cymunedol ar draws Dyfed-Powys.

Yn dilyn y digwyddiad lansio, meddai’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn:

“Mae lansiad fy Fforwm Ieuenctid yn nodi datblygiad cyffrous o ran y ffordd rwyf yn gwrando ar lais pobl ifanc. Rwyf yn awyddus i adeiladu perthnasau gyda grwpiau ieuenctid, a chynghorau a fforymau ieuenctid sydd eisoes yn bodoli ar draws y rhanbarth fel y gallant hysbysu fy mhenderfyniadau o ran plismona a throseddu, ac roedd nifer o’r rhain wedi eu cynrychioli yn y lansiad. Rydw i hefyd yn datblygu dulliau newydd o gyrraedd y rhai sy’n anodd cyrraedd atynt.

“Rwyf yn gyffrous i gyhoeddi fod gennym aelodau newydd-etholedig o Senedd Ieuenctid Cymru wedi eu cynrychioli ar fy Fforwm, ac rydw i eisoes wedi dechrau trafodaethau gyda’r Senedd yng Nghaerdydd ynghylch ffyrdd y gall fy Llysgenhadon Ieuenctid fwydo i mewn i waith Senedd Ieuenctid Cymru, a sut y gellir bwydo yn ôl ffordd arall hefyd. Rydw i’n ddiolchgar iawn i fy Llysgenhadon Ieuenctid am wirfoddoli eu hamser, ac rwyf yn edrych ymlaen at weld y Fforwm Ieuenctid yn datblygu dros yr ychydig fisoedd nesaf.”

Meddai’r Dirprwy Brif Gwnstabl Richard Lewis:

"Roedd yn bleser i fynychu digwyddiad lansio y Fforwm Ieuenctid cyntaf oll.  Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygiad y Fforwm fydd yn ein helpu i ymgysylltu gyda grwp sydd yn gymharol anodd i’w gyrraedd.  Mae’n bwysig iawn clywed llais pobl ifanc mewn plismona a throsedd, a bydd y fforwm yn darparu mewnwelediad gwerthfawr wrth Llysgenhadon Ifanc."

 

Roedd lansiad y Fforwm Ieuenctid hefyd yn gyfle i roi perfformiad cyntaf o ffilm fer a grëwyd gan Theatr Genedlaethol Cymru a Fforwm Ieuenctid Sipsi, Roma a Theithwyr Gorllewin Cymru o’r sefydliad ‘Teithio Ymlaen’, fforwm a grëwyd fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Trosedd Casineb 2018. Roedd y gwaith, a gomisiynwyd gan Dafydd Llywelyn drwy gyllid Llywodraeth Cymru, yn ganlyniad cyfres o weithdai yn archwilio’r cysyniad o gymuned, cariad ac ymdeimlad o berthyn.

Meddai Denise Barry o ‘Deithio Ymlaen’:

“Mae ein pobl ifanc wedi llwyr fwynhau’r broses o weithio gyda Theatr Genedlaethol Cymru, drwy’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu, i archwilio materion mor gymhleth mewn modd deinamig. Maent nawr hefyd wrth eu boddau i ddod yn Llysgenhadon Ieuenctid ar gyfer y gymuned Sipsi, Teithwyr a Roma ar Fforwm Ieuenctid y Comisiynydd.”

Os hoffai eich grŵp neu sefydliad ieuenctid chi glywed mwy am Fforwm Ieuenctid y Comisiynydd, cysylltwch â’i swyddfa ar 01267 226 440 neu anfonwch e-bost at opcc@dyfed-powys.pnn.police.uk.

 

Diwedd

Nodyn i Olygyddion

I weld y ffilm fer a grewyd gan Fforwm Ieuenctid Sipsi, Teithwyr a Roma ‘Teithio Ymlaen’:https://vimeo.com/305764080/e86ca27c3b

Wythnos Ymwybyddiaeth Casineb 2018: https://www.stophateuk.org/hate-crime-awareness-week/