15 Rhag 2021

Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn yn annog preswylwyr lleol i ddweud eu dweud am deimladau o ddiogelwch ar draws yr ardal Heddlu. Mewn ymateb i gyhoeddiad y Dirprwy Brif Gwnstabl Maggie Blyth, ‘Plismona trais yn erbyn menywod a merched: Fframwaith genedlaethol ar gyfer cyflawni’, drwy ei ymgynghoriad cyhoeddus diweddaraf, mae Mr Llywelyn yn awyddus i ddeall y darlun lleol o drais yn erbyn menywod a merched, teimladau o ddiogelwch a hyder yn yr heddlu.

Nod cyffredinol yr ymgynghoriad, a lansiwyd ar 16 Rhagfyr 2021, yw helpu i nodi lleoliadau penodol lle mae preswylwyr yn teimlo’n anniogel, a beth ellir ei wneud i gynyddu teimladau o ddiogelwch yn lleol. Drwy hyn, bydd y Comisiynydd yn helpu i sicrhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn bodloni anghenion cymunedau lleol.

Nod yr arolwg yw helpu i nodi lleoliadau penodol lle mae preswylwyr yn teimlo’n anniogel, a beth ellir ei wneud i gynyddu teimladau o ddiogelwch yn lleol, fel bod Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu’n medru helpu i sicrhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn bodloni anghenion cymunedau lleol.

Dywedodd y CHTh Dafydd Llywelyn; “Mae’n bwysig fy mod i’n deall teimladau o ddiogelwch yn ardal Dyfed-Powys, a bod preswylwyr yn tynnu sylw at yr ardaloedd lle maen nhw’n teimlo’n anniogel.

“Fel eich Comisiynydd Heddlu a Throseddu, rwy’n swyddog etholedig sy’n gyfrifol am sicrhau ardal blismona effeithiol ac effeithlon, ac am sicrhau bod Plismona lleol yn bodloni anghenion ein cymunedau. 

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Jayne Butler o Adran Ymchwilio i Droseddau Heddlu Dyfed-Powys, sef arweinydd yr Heddlu ar gyfer Diogelu Pobl Fregus; “Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cefnogi nod Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i gasglu gwybodaeth gan y cyhoedd am ba mor ddiogel y maent yn teimlo mewn mannau cyhoeddus. Byddem yn annog aelodau o’r cyhoedd i gwblhau’r arolwg hwn a’i ddefnyddio fel cyfle i gofnodi unrhyw wybodaeth berthnasol gyda ni. Bydd y Comisiynydd yn rhannu’r wybodaeth hon â’r Heddlu er mwyn hysbysu’r ymateb plismona.”

Ychwanega’r CHTh Dafydd Llywelyn;  “Wrth imi lansio fy Nghynllun Heddlu a Throseddu newydd, sy’n nodi’r blaenoriaethau ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys am y pedair blynedd nesaf, rwy’n awyddus i fesur hyder cyhoeddus mewn plismona drwy ymgysylltu’n ehangach ac ymgynghori’n rheolaidd.

“Rwy’n benderfynol o wneud gwelliannau gwirioneddol yn yr ardal hon. Efallai bod datrysiadau ymarferol ar gyfer rhai ardaloedd, ond hoffwn nodi ffyrdd creadigol ar gyfer gwella diogelwch yn ogystal â’r newidiadau diwylliannol mwy sydd eu hangen.

“Rwy’n ddiolchgar i bawb sy’n teimlo eu bod yn medru rhannu eu syniadau a’u profiadau â mi drwy’r arolwg hwn. Rwy’n deall nad yw bob amser yn hawdd, ond bydd yn helpu i hysbysu cynlluniau ar gyfer cadw ein cymunedau’n ddiogel.”

Mae’r arolwg, sy’n cau ar 12 Ionawr 2022, ar agor i bawb, a gellir ei gwblhau’n ddienw. Er mwyn cwblhau’r arolwg ar-lein, cliciwch ar y ddolen ganlynol:

https://www.surveymonkey.co.uk/r/W2MCQ8T

I wneud cais am gopi o’r arolwg drwy’r post, neu er mwyn cwblhau’r arolwg dros y ffôn, cysylltwch â Swyddfa’r Comisiynydd ar OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk / 01267 226440.

Diolch.

 

DIWEDD

Rhagor o wybodaeth:

Ffion Davies

Myfyriwr Interniaeth

ffion.davies@dyfed-powys.police.uk