21 Rhag 2023

Wrth anelu at godi ymwybyddiaeth bellach o Gam-drin Plant i Rieni yn dilyn Ymgyrch Rhuban Gwyn diweddar, mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn yn annog sefydliadau yn ardal Dyfed-Powys i lofnodi'r Cyfamod Cam-drin Plant i Rieni.

Mae Cam-drin Plant i Rieni yn fath arbennig o gam-drin domestig, ac mae diffyg ymwybyddiaeth o’r math hwn o gam-drin yn ôl Comisiynydd Dafydd Llywelyn, sy’n rhywbeth y mae wedi bod yn awyddus i fynd i’r afael ag ef yn y blynyddoedd diwethaf.

Mae’r Cyfamod yn rhoi cyfle i gyflogwyr ledled y DU gydnabod Cam-drin Plant i Rieni fel math allweddol o gam-drin domestig, a dechrau cynnig cymorth i’w staff, gwirfoddolwyr, ac unrhyw ddefnyddwyr gwasanaeth neu aelodau o’r cyhoedd y maent yn dod i gysylltiad â nhw. Gall sefydliadau lofnodi’r Cyfamod p’un a oes ganddynt bolisïau a hyfforddiant staff presennol ar waith, neu a ydynt yn gwbl newydd i’w taith o ddarganfod beth yw CPA a sut mae’n effeithio ar deuluoedd.

Mae’r Cyfamod wedi’i lansio gan y sefydliad dielw PEGS (Parents Education Growth Support), fel rhan o’u hymrwymiad parhaus i gefnogi rhieni, gofalwyr a gwarcheidwaid y mae CPA yn effeithio arnynt. Mae PEGS yn gweithio mewn partneriaeth â’r Adran Gwaith a Phensiynau i hyrwyddo’r Cyfamod ac effeithiau cadarnhaol ymuno.

Yn 2021, ynghyd â phartneriaid yn ardal Dyfed Powys, bu Swyddfa’r Comisiynydd Dafydd Llywelyn yn gweithio gyda PEGS i lywio a datblygu dogfen bolisi a chanllawiau rhanbarthol ynghylch cam-drin plentyn i riant.

Yn ogystal â hyn, mae pecyn hyfforddi cynhwysfawr wedi'i gyflwyno i ymarferwyr, gan gynnwys swyddogion heddlu, gwasanaethau a gomisiynir a phartneriaid trwy PEGS.

Mae’r hyfforddiant yn cynnwys ymwybyddiaeth o declyn asesu sy’n cael ei ddefnyddio gan Heddlu Dyfed-Powys i nodi presenoldeb cam-drin plentyn i riant, ac i lywio’r ymateb gweithredol.

Unwaith y bydd wedi'i nodi, mae Comisiynydd Dafydd Llywelyn wedi defnyddio Cronfa Cyflawnwyr Cam-drin Domestig y Swyddfa Gartref yn flaenorol i ddarparu sesiynau hyfforddi a rhaglen teulu cyfan o dan y faner Break for Change, sy'n gweithio gyda'r rhiant a'r plentyn gyda'i gilydd. Mae’r hyfforddiant hwn bellach yn cael ei ddarparu drwy brosiect unigryw o’r enw Ar Trac, sy’n cael ei ariannu drwy grant Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, a dyma’r prosiect cyntaf o’i fath yng Nghymru.

Mae CHTh Dafydd Llywelyn hefyd wedi siarad yn ddiweddar mewn cynhadledd genedlaethol, yn trafod Cam-drin Plant i Rieni a’r gwaith sy’n cael ei wneud yn ardal Dyfed-Powys.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn; “Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i fynd i’r afael â cham-drin domestig yma yn Nyfed-Powys. Mae Cam-drin Plant i Rieni yn agwedd o’r mater hwn sy’n cael ei hanwybyddu’n aml, a’n dyletswydd ni yw codi ymwybyddiaeth.

“Mae ein hymdrechion, gan gynnwys yr hyfforddiant unigryw rydym yn ei ddarparu yn y maes hwn a llofnodi’r Cyfamod Cam-drin Plant i Rieni, yn gamau tuag at gymuned fwy diogel a gwybodus. Drwy gydweithio, gallwn greu newid parhaol a chefnogi’r rhai y mae’r mathau hyn o gam-drin yn effeithio arnynt.

“Rwy’n annog pob sefydliad yn Nyfed-Powys i lofnodi’r Cyfamod, fel eu bod yn cael cyfle i ddysgu mwy amGamdrin Plentyn i Rieni a dechrau cynnig cymorth i’w staff, gwirfoddolwyr, ac unrhyw ddefnyddwyr gwasanaeth neu aelodau o’r cyhoedd y maent yn dod i gysylltiad â nhw.”

Mae rhagor o fanylion am y Cam-drin o Blant i Rieni, a’r Cyfamod, ar gael ar wefan PEGS yma; https://www.pegsupport.co.uk/CPAC .

 

DIWEDD

Gwybodaeth bellach

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk