22 Mai 2023

Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn, yn ceisio barn dioddefwyr ar y rhwystrau y gallent eu hwynebu wrth riportio troseddau fel cam-drin domestig, trais rhywiol ac ymosodiadau rhywiol.

Mae’r Comisiynydd wedi lansio ymgynghoriad sy’n cynnwys arolwg ar-lein a sesiynau grŵp ffocws i ddeall yn well unrhyw rwystrau y mae dioddefwyr yn eu hwynebu, ac i ddarganfod sut y gall yr Heddlu gynyddu hyder dioddefwyr wrth riportio troseddau o’r fath.

Bydd yr ymgynghoriad yn ceisio deall pam nad yw rhai dioddefwyr yn riportio. Bydd yn gofyn barn dioddefwyr ar eu dull cyswllt dewisol, beth maent yn ei ddisgwyl drwy’r cyswllt, a faint o wybodaeth am wasanaethau cymorth a’r broses cyfiawnder troseddol y byddai dioddefwr ei heisiau yn y cyswllt cychwynnol hwnnw.

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn: “Mae’n cymryd dewrder aruthrol i ddioddefwyr riportio trais rhywiol, ymosodiad rhywiol, cam-drin rhywiol a cham-drin domestig. Mae troseddau o’r fath yn cael effaith ddinistriol ar fywydau dioddefwyr. Rwy’n dawel fy meddwl y bydd dioddefwyr bob amser yn cael eu trin â sensitifrwydd a pharch yn ystod ymchwiliad a gynhelir gan Heddlu Dyfed-Powys. Fodd bynnag, mae’n hynod bwysig i ni geisio barn dioddefwyr fel y gallwn nodi unrhyw rwystrau i adrodd a cheisio gwella gwasanaethau o ganlyniad.”

Bydd yr arolwg ar-lein byr yn cau ar 25 Mai, a gellir ei gyrchu trwy'r ddolen ganlynol: https://www.surveymonkey.co.uk/r/XYFK696

DIWEDD

Rhagor o fanylion:

Emily Wheeler

Ymgynghorydd Ymgysylltu

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk