17 Tach 2023
Yr wythnos hon, cynhaliodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ddigwyddiadau Drysau Agored ym Mhencadlys yr Heddlu ar gyfer cynrychiolwyr cymunedol.
Gwahoddwyd Cynghorwyr Sir, Cynghorwyr Tref a Chymuned yn ogystal ag Aelodau Seneddol gan CHTh Dafydd Llywelyn i ymweld â Phencadlys yr Heddlu yn Llangynnwr, Caerfyrddin i fynd y tu ôl i ddrysau caeedig i ddysgu mwy am waith rhai o’r unedau arbenigol allweddol gyda Heddlu Dyfed-Powys.
Cynhaliwyd cyfanswm o bedair sesiwn gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd dros ddau ddiwrnod yn olynol. Roedd y digwyddiadau’n cynnwys ystod o fewnbynnau gan unedau ac adrannau arbenigol ar feysydd allweddol o blismona fel Trais Difrifol a Throseddau Cyfundrefnol, Gweithrediadau Arbennig, a’r Hwb Agored i Niwed. Nod y digwyddiadau oedd rhoi dealltwriaeth gynhwysfawr i gynrychiolwyr cymunedol o'r gwaith helaeth sy'n cael ei wneud gan yr Heddlu i sicrhau bod cymunedau Dyfed-Powys yn aros yn ddiogel rhag niwed.
Cafodd y mynychwyr hefyd arddangosiad hedfan drôn, a thaith o gwmpas Canolfan Reoli’r Heddlu lle cawsant drosolwg o sut mae galwadau 101, 999 a’r ddesg ddigidol yn cael eu gweithredu, a sut mae’r seilwaith Teledu Cylch Cyfyng yn cael ei weithredu i gefnogi Swyddogion ar lawr gwlad.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn: “Rwy’n hyderus fod y digwyddiadau Drysau Agored hyn wedi datblygu dealltwriaeth cynrychiolwyr cymunedol o elfennau o waith y mae Heddlu Dyfed-Powys yn ei wneud, efallai nad yw pobl yn ymwybodol ohonynt.
“Ein nod oedd meithrin ymdeimlad dyfnach o dryloywder ac ymddiriedaeth rhwng Heddlu Dyfed-Powys a’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu, a hefyd cyfle i rannu mewnwelediadau a chael trafodaethau adeiladol gyda swyddogion.
“Mae'r adborth wedi bod yn gadarnhaol, a byddwn yn ceisio trefnu digwyddiadau tebyg yn y dyfodol i sicrhau bod cynrychiolwyr cymunedol yn cael eu briffio ar ddatblygiadau a gweithgareddau allweddol o fewn yr Heddlu.”
DIWEDD
Gwybodaeth Bellach:
OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk


