07 Rhag 2023

Ar Ddydd Mercher 6ed o Ragfyr roedd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn yn Aberystwyth ar gyfer Diwrnod Ymgysylltu Cymunedol lle cyfarfu â nifer o bartneriaid a sefydliadau o Geredigion ar gyfer trafodaethau ar ddiogelwch a lles cymunedol.

Dechreuodd CHTh Llywelyn y diwrnod trwy ymweld â Gwasanaethau Cam-drin Domestig Gorllewin Cymru, sydd wedi derbyn cyllid yn ddiweddar gan y Swyddfa i gryfhau eu gwasanaethau hanfodol yng Ngheredigion sy'n cyfrannu at ddiogelwch a lles aelodau bregus o'r gymuned.

Gan barhau ag ymrwymiadau’r diwrnod, cynhaliodd CHTh Llywelyn gyfarfod gyda chynrychiolwyr o Wasanaethau Alcohol a Chyffuriau Dyfed, i drafod pwysigrwydd ymdrechion ar y cyd i fynd i’r afael â phroblemau camddefnyddio sylweddau yn ein cymunedau.

Yn y prynhawn, mynychodd y Comisiynydd Ddiwrnod Agored yn Noddfa Pobl Ifanc Ceredigion (Ceredigion Young People Sanctuary), cyfleuster sy’n darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac argyfwng mynediad agored i bobl ifanc, cyn cyfarfod â Chynghorwyr Tref Aberystwyth. Yn ystod y cyfarfod gyda'r Cynghorwyr, rhoddodd y CHTh ddiweddariad ar ddatblygiadau cyfredol ar gyfer gosod teledu cylch cyfyng ychwanegol yn y dref a fydd yn gwella diogelwch y cyhoedd.

Daeth y diwrnod ymgysylltu cymunedol i ben gydag ymweliad â’r sesiynau PL Kicks sy’n cael eu rhedeg yng Nghlwb Pêl-droed Tref Aberystwyth. Roedd eu sesiwn yn cyd-daro â 10fed pen-blwydd yr Ymgyrch Lasys Enfys ac yn cynnwys gweithdy i’r bobl ifanc gan Football Vs Homophobia, sy’n pwysleisio ymroddiad y fenter i gynhwysiant ac amrywiaeth yn y gymuned.

Wrth ystyried ymrwymiadau’r diwrnod, dywedodd CHTh Dafydd Llywelyn; “Fe wnaeth ymgysylltu a rhyngweithio heddiw atgyfnerthu fy ymrwymiad a chefnogaeth barhaus i gydweithio â sefydliadau cymunedol a thrigolion, fel y gallaf sicrhau fy mod i a’r Heddlu yn ymateb yn briodol ac yn effeithiol i anghenion ein cymuned.”

DIWEDD

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk