18 Chw 2022

Croesawodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn y cyfle i fod yn rhan o ddathliad 15 mlynedd rhaglen Kicks yr Uwch Gynghrair, gyda’r Gynghrair yn arddangos effaith y mae’r fenter yn ei chael ar gymunedau lleol trwy gyfres o fideos a ryddhawyd yn ystod yr wythnos.

I ddathlu’r fenter, gwahoddwyd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn i gymryd rhan yn y fideo hyrwyddo gyda’r Gynghrair, lle cyflwynodd gerdyn Local Legend o’r Uwch Gynghrair i Harri o Seaside, Llanelli.

Nod rhaglen PL Kicks yw defnyddio pêl-droed a chwaraeon yn gyffredinol i ysbrydoli plant a phobl ifanc, a dod â chymunedau at ei gilydd.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r CHTh Dafydd Llywelyn wedi comisiynu Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe i gynnal sesiynau rhad ac am ddim mewn dwy ardal o fewn ardal yr Heddlu, yn Seaside Llanelli, a Doc Penfro, gyda channoedd o blant a phobl ifanc yn mynychu’n wythnosol.

Yn dilyn eu llwyddiant yn y ddwy ardal, ym mis Medi 2021, cyhoeddodd CHTh Dafydd Llywelyn y byddai’r rhaglen yn cael ei hymestyn am dair blynedd arall yn Seaside Llanelli a Doc Penfro o dan gytundeb newydd, a hefyd ei chyflwyno i blant a phobl ifanc mewn tair ardal newydd, yn Aberystwyth, y Drefnewydd, a Chaerfyrddin.

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn: “Roedd yn wych bod yn rhan o’r dathliadau yr wythnos hon, a hoffwn longyfarch yr Uwch Gynghrair ar lwyddiant eu menter Kicks, a’r effaith gadarnhaol y mae’r rhaglen yn ei chael ar gymunedau.”

“Trwy weithio gyda Sefydliad Dinas Abertawe i ddod â’r fenter i ardaloedd Dyfed-Powys, roeddwn i eisiau ceisio lleihau faint o ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n digwydd, a cheisio rhoi dewis o weithgaredd i bobl ifanc sy’n ymgynnull, fel y byddech chi’n ei ddisgwyl gyda’r nos.

“Pa ffordd well o wneud hynny nag ymgysylltu trwy bêl-droed?

“Mae’n rhoi cyfle iddyn nhw, I waredu rhai o’u rhwystredigaethau ac i losgi ychydig o egni.

“Nid oes gan bawb gyfleoedd, ac mae’r ardal benodol hon yn Seaside ac ardaloedd eraill ar draws Dyfed-Powys yn eithaf difreintiedig yn yr ystyr hwnnw, ac mae’n wych i’r Uwch Gynghrair ail-fuddsoddi yn ôl mewn i gymunedau lleol.

Dywedodd Rheolwr Ymgysylltu Ieuenctid Sefydliad Clwb Peldroed Dinas Abertawe, Craig Richards: “Mae Prosiect Swans Kicks mewn partneriaeth â Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc ac ymdeimlad o berthyn.

“Mae wedi bod yn 24 mis anodd i bawb. Fodd bynnag, credwn fod y sesiynau hyn yn cael dylanwad cadarnhaol ar bobl ifanc ac yn adeiladu cymunedau cryfach i leihau ac atal trosedd. Rydym yn gyffrous i allu cynnig sesiynau pêl-droed i bob ardal yn Nyfed Powys a diolch i Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu am ei gefnogaeth lawn tuag at y rhaglen.”

Cynhelir y sesiynau yn y lleoliadau canlynol o fewn Dyfed-Powys;

Caerfyrddin (Dydd Llun), Seaside (Mawrth), Y Drenewydd (Dydd Iau), Penfro (Dydd Gwener), Aberystwyth (Dydd Gwener).

I gofrestru ar gyfer Sesiynau Kicks yr Uwch Gynghrair, cliciwch yma.

DIWEDD

Llun: PCC Dafydd Llywelyn, Local Legend Harri, Lee Trundle, Craig Richards

Rhagor o fanylion:

Gruff Ifan

Ymgynghorydd Polisi ac Ymgysylltu

Gruffudd.ifan@dyfed-powys.police.uk

PCC Dafydd Llywelyn, Local Legend Harri, Lee Trundle, Craig Richards

PCC Dafydd Llywelyn, Local Legend Harri, Lee Trundle, Craig Richards