10 Tach 2023

Yr wythnos hon, rhoddodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn, ynghyd â thri Chomisiynydd Heddlu a Throseddu arall Cymru dystiolaeth i’r Pwyllgor Materion Cymreig Seneddol, dan gadeiryddiaeth Stephen Crabb AS.

Roedd hyn er mwyn archwilio sut y cyflawnodd pob Comisiynydd Heddlu a Throseddu eu dyletswyddau fel cynrychiolwyr etholedig yn gyfrifol am lywodraethu’r heddlu, goruchwylio’r heddlu a chomisiynu gwasanaethau cyfiawnder troseddol ar gyfer ardal yr heddlu, ynghyd â’u hymgysylltiad â Llywodraethau’r DU a Chymru.

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau am rôl y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, a’r berthynas rhwng y CHTh a Phenaethiaid yr Heddlu. Rhoddodd y pedwar Comisiynydd enghreifftiau o weithio o fewn tirwedd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru a meysydd datganoledig a heb eu datganoli – a all fod yn heriol ar adegau.

Disgrifiodd CHTh Dafydd Llywelyn y rôl fel rôl arweiniol, gan bonito rhwng cymunedau â’u gwasanaethau heddlu priodol a phwysleisiodd bwysigrwydd caniatáu i ddioddefwyr a goroeswyr gael llais a mynediad at yr heddlu a’r system cyfiawnder troseddol ehangach.

Edrychodd y drafodaeth ar gydweithio yng Nghymru a gofynnwyd cwestiynau am y posibilrwydd o gael un Heddlu Cymreig. Cytunodd y pedwar Comisiynydd fod lle i ystyried gwell cydweithio, ond na fyddai cael un heddlu o fudd i Gymru. Pwysleisiwyd pwysigrwydd gweithio i symleiddio rhai swyddogaethau.

Roedd gan y pwyllgor ddiddordeb mewn darganfod mwy am y ffordd y mae Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu a Phrif Gwnstabliaid yn rhyngweithio, a phwysigrwydd cael gwared ar gamymddwyn a phwysigrwydd hyfforddiant. Holwyd CHTh Dafydd Llywelyn yn uniongyrchol am ei berthynas a'i ryngweithio â'r Prif Gwnstabl. Gofynnwyd cwestiynau penodol ynghylch sut y llwyddodd yr Heddlu i reoli protestiadau diweddar a thensiwn cymunedol yng Ngwesty Parc y Strade, Llanelli oherwydd cynlluniau arfaethedig y Swyddfa Gartref i ddefnyddio’r gwesty i gartrefu ceiswyr lloches.

Darparodd CHTh Llywelyn wybodaeth i aelodau'r pwyllgor ar sefyllfa ariannol Heddlu Dyfed-Powys. Mae’r CHTh wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus yn ddiweddar ar gyllideb Plismona 2024-25, a nododd yn ei dystiolaeth heriau’r ddibyniaeth gynyddol ar drethdalwyr i ariannu plismona yng Nghymru.

Dywedodd CHTh Dafydd Llywelyn; “Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yw’r bont rhwng cymunedau a gwasanaethau heddlu, gan fod yn llais i’r cyhoedd wrth ddwyn plismona i gyfrif. Drwy fynychu Senedd y DU yr wythnos hon i roi tystiolaeth i’r Pwyllgor Materion Cymreig, roeddem yn gallu esbonio sut rydym yn mabwysiadu golwg strategol ar blismona yng Nghymru ac yn gweithio ar y cyd ag asiantaethau partner i sicrhau bod anghenion y cyhoedd, dioddefwyr a goroeswyr yn cael eu diwallu ar lefel lleol a chymunedol, ac ar lefel genedlaethol.

Darlledwyd y cyfarfod yn San Steffan yn fyw. Gellir gwylio recordiad o'r cyfarfod trwy'r ddolen ganlynol: https://bit.ly/3spKJQp

 

DIWEDD

Gwybodaeth bellach

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Llun: (Ch/Dd):  Rt Hon Alun Michael, Dafydd Llywelyn, Stephen Crabb MP, Andy Dunbobbin and Eleri Thomas

Llun: (Ch/Dd): Rt Hon Alun Michael, Dafydd Llywelyn, Stephen Crabb MP, Andy Dunbobbin and Eleri Thomas