20 Tach 2023

Heddiw (20 Tachwedd 2023), roedd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn yn Sir Benfro ar gyfer Diwrnod Ymgysylltu Cymunedol.

Yn ystod y dydd, ymwelodd CHTh Dafydd Llywelyn â Gorsaf Heddlu newydd Aberdaugleddau yn Cedar Court cyn mynd allan ar batrôl troed o amgylch Aberdaugleddau gyda PCSOs o’r Tîm Plismona Cymunedol.

Yn y prynhawn roedd y CHTh unwaith eto allan ar batrôl troed yn Hwlffordd gyda'r PCSOs lleol yn ymgysylltu â thrigolion a busnesau yn y dref, a oedd yn cynnwys ymweliad ag Oriel VC Gallery. Elusen yw Oriel VC sy’n cael ei rhedeg gan Barry John MBE, ac mae’n darparu amgylchedd creadigol ar gyfer milwyr sy’n gwasanaethu, neu yn gyn-wasanaethwyr, ynghyd a’r gymuned ehangach, gyda’r nod o ymgysylltu â phobl o bob oed a gwella eu datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol.

A hithau’n Wythnos Diogelwch Ffyrdd yr wythnos hon, fel rhan o’i Ddiwrnod Ymgysylltu â’r Gymuned yn Sir Benfro, cafodd CHTh Llywelyn hefyd sesiwn friffio ar rai o’r gweithgareddau y bydd Uned Plismona’r Ffyrdd Heddlu Dyfed-Powys yn ymwneud ag ef yn ystod yr wythnos i gadw ein ffyrdd yn ddiogel.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn: “Roedd yn wych bod yn Aberdaugleddau a Hwlffordd heddiw, yn gwrando ac yn gweld sut mae ein PCSOs ymroddedig yn cryfhau ein perthynas â’r cyhoedd.

“Mae sefydliadau gwirfoddol ac elusennau fel Oriel VC yn darparu adnoddau gwerthfawr i’n cymunedau a all gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl a’u dyfodol”.

 

DIWEDD

Rhagor o fanylion:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk