19 Hyd 2023

Heddiw, (19 Hydref) mae'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn yng Ngogledd Powys ar Ddiwrnod Ymgysylltu Cymunedol, lle mae’n cyfarfod â Chynghorwyr yn Y Trallwng a’r Drenewydd yn ogystal ag elusennau lleol a grwpiau cymunedol yn yr ardal.

Yn ystod y bore ymunodd y CHTh â Thîm Plismona Bro’r Drenewydd ar batrôl troed lle buont yn ymweld â rhai mannau problemus yn yr ardal. Yn dilyn y patrôl troed, cyfarfu CHTh Dafydd Llywelyn â’r Cynghorydd Joy Jones o’r Drenewydd i ymweld â rhai o’r elusennau lleol a grwpiau cymunedol yn yr ardal, gan gynnwys y Gegin Gymunedol, a Credu.

Mae Credu yn sefydliad sy’n gweithio i gefnogi aelodau teulu a ffrindiau ledled Powys sy’n gofalu am rywun sy’n sâl neu’n anabl. Eu nod yw cefnogi gofalwyr ifanc ac oedolion i fwynhau llesiant wrth iddynt ei ddiffinio, cael eu cydnabod a’u gwerthfawrogi a chael dewisiadau, llais a dylanwad. Cyfarfu’r CHTh hefyd â gwirfoddolwyr o The Community Kitchen yn y Drenewydd, sy’n gaffi sy’n cael ei redeg gan wirfoddolwyr lleol, sy’n darparu prydau am ddim i’r rhai sydd mewn angen.

Yn y prynhawn, mynychodd y CHTh gyfarfod gyda Chyngor Tref y Trallwng i fynd i'r afael â rhai o'r pryderon lleol y mae'r Cyngor wedi'u codi dros y misoedd diwethaf mewn perthynas â throseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y dref.

Mae’r wythnos hon hefyd yn Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb, ac i gloi’r diwrnod ymgysylltu cymunedol, mynychodd y CHTh weithdy Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb gyda phobl ifanc o raglen Premier League Kicks y mae’r CHTh wedi’i hariannu yn y Drenewydd. Trwy'r rhaglen PL Kicks, mae plant a phobl ifanc yn cael cyfle i fynychu sesiynau pêl-droed wythnosol rhad ac am ddim sy'n cael eu rhedeg gan Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, sy'n anelu at ddargyfeirio pobl ifanc oddi wrth droseddu trwy ddarparu gweithgaredd chwaraeon hwyliog iddynt mewn amgylchedd diogel.