17 Ebr 2020

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn, wedi galw ar grwpiau cymunedol o ardal y Drenewydd i fanteisio ar gyllid newydd sydd ar gael ar gyfer mentrau sy'n anelu at wella diogelwch cymunedol yn yr ardal.

Trwy'r Tîm Plismona Bro lleol yn y Drenewydd, mae hyd at £4000 o arian ar gael i grwpiau cymunedol trwy broses o'r enw Cyllidebu Cyfranogol.

Mae Cyllidebu Cyfranogol yn ffordd ddemocrataidd o rymuso cymunedau trwy ganiatáu iddynt gynnig am arian i ariannu prosiectau sy'n cwrdd â thema'r grŵp cynllunio: yn yr achos hwn gwella diogelwch cymunedol.

Gall unrhyw grŵp cymunedol gynnig am gyfran o'r grant er mwyn gwella diogelwch cymunedol a hyrwyddo cymuned iachach yn y Drenewydd.

Yn ogystal â chyllid o £10,000 gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd ar gyfer y broses yn y Drenewydd, mae cyllid hefyd yn cael ei darparu gan Gyngor Tref Y Drenewydd a Llanllwchaiarn, Tai Canolbarth Cymru, Wales and West Housing, Newydd Housing. Mae Tîm Plismona Bro y Drenewydd wedi gweithio gyda'r holl bartneriaid i sefydlu grŵp FLOW Y Drenewydd - Funding Local Opportunities Working together - i weithio gyda grwpiau cymunedol ar y broses ymgeisio.

Dros gyfnod o amser, bydd pob un o'r 14 Tîm Plismona Bro ar draws ardal heddlu Dyfed-Powys yn derbyn £10,000 yr un i'w wario yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, a'r cymunedau eu hunain yw'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol yn y broses Cyllidebu Gyfranogol hon.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys: “Rwyf wedi ymrwymo i ariannu’r dull newydd ac arloesol hwn o ariannu cymunedol gan fy mod yn credu ei bod yn hanfodol bod trigolion lleol yn cael dweud eu dweud ynghylch sut mae arian yn cael ei wario yn eu hardal leol.

“Nhw sydd yn y sefyllfa orau i weithio gyda’r heddlu, ac yn wir asiantaethau partner eraill, i nodi lle mae angen yr arian a beth fyddai fwyaf buddiol i’r cymunedau lleol.

“Dylai cymunedau fod yn dylanwadu ar y penderfyniadau.

“Rwy’n annog yr holl grwpiau cymunedol amrywiol yn y Drenewydd i ystyried y cyllid yr wyf wedi’i ddarparu, ac i gysylltu â Thîm Plismona Bro y Drenewydd i drafod syniadau, fel y gall y gymuned gyfan weithio gyda’i gilydd i wella diogelwch y gymuned”.

Dywedodd yr Uwcharolygydd Ifan Charles, Rheolwr Rhanbarthol Powys ac arweinydd ar gyllidebu cyfranogol: “Mae cyllidebu cyfranogol yn ffordd o roi mwy o lais i gymunedau o ran sut mae eu cymuned yn esblygu.

“Mae datrys problemau i ddod o hyd i atebion tymor hir i ddatrys y materion sy’n achosi’r niwed mwyaf i gymunedau, wrth wraidd ein model plismona bro newydd.

“Trwy ymgysylltu cymunedol a datrys problemau yn wybodus, dylai’r strwythur plimona bro newydd leihau’r niwed tymor hir i’n cymunedau a chyda hynny, y galw ar ein swyddogion ymateb, ond dim ond os yw ein cymunedau a’n partneriaid yn ymgysylltu’n gyfartal y bydd hyn yn gweithio.

“Mae cyllidebu cyfranogol wedi gweithio’n dda iawn mewn mannau eraill ac rwy’n gyffrous iawn i arwain cyflwyno’r dull arloesol hwn yma.”

Agorodd y broses ymgeisio ar 1 Ebrill 2020 a'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 30 Ebrill 2020. Dylai unrhyw un a hoffai fod yn rhan o'r broses hon yn y Drenewydd gysylltu â'r Rhingyll Matthew Price yng ngorsaf Heddlu'r Drenewydd, neu anfon e-bost ato ar matthew.price418@dyfed- powys.pnn.police.uk

DIWEDD