26 Gor 2021

Ddydd Iau 22 Gorffennaf 2021, croesawodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn y Gweinidog Plismona, Kit Malthouse AS i Bencadlys yr Heddlu lle cafodd ei dywys o amgylch yr ystafell deledu cylch cyfyng yn y Pencadlys yn ogystal â chyfarfod ag aelodau o Dîm Troseddau Gwledig yr Heddlu.

Cyfarfu’r Gweinidog Plismona â gweithredwyr teledu cylch cyfyng yn yr ystafell fonitro ganolog lle mae dros 150 o gamerâu teledu cylch cyfyng mewn dros 24 o drefi yn ardal Dyfed-Powys yn cael eu monitro.

Yn ogystal â helpu i atal a chanfod troseddau, mae camerau cylch cyfyng yn cynorthwyo gydag amddiffyn pobl agored i niwed yn ardal yr heddlu, ac addewid PCC Dafydd Llywelyn yn 2016 oedd sicrhau bod camerau teledu cylch cyfyng yn cael eu hailgwyflywno mewn trefi ar draws ardal yr Heddlu i sicrhau diogelwch cymunedol, a chefnogaeth effeithiol i swyddogion ar lawr gwlad.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd; “Roedd yn fraint cael cynnal y Gweinidog Plismona yma yn y Pencadlys. Dyma’r tro cyntaf mewn deng mlynedd i ni gynnal ymweliad gweinidogol ym Mhencadlys yr Heddlu, ac rwy’n falch ein bod wedi cael cyfle i arddangos y seilwaith teledu cylch cyfyng o’r radd flaenaf yr ydym wedi’i gyflwyno yma ers fy nghyfnod fel Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd.

“Llwyddodd y Gweinidog a’i dîm i weld o lygad y ffynnon ansawdd y lluniau teledu cylch cyfyng a pa mor hanfodol y buont yn ystod y blynyddoedd diwethaf wrth gefnogi ymchwiliadau.

“Roedd gan y Gweinidog ddiddordeb hefyd yn y datblygiadau rydyn ni wedi’u gwneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf i fynd i’r afael â throseddau gwledig a chafodd gyfle i gwrdd â rhai o aelodau ein Tîm Troseddau Gwledig, a mynd gyda nhw ar ymweliad â fferm leol”.

“Roedd yr ymweliad hwn yn gyfle imi drafod cyfeiriad a blaenoriaethau fy Nghynllun Heddlu a Throsedd newydd ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys am y dair blynedd nesaf gyda’r Gweinidog, ac rwy’n ddiolchgar ei fod wedi cymryd yr amser i gwrdd â mi, a Phrif Swyddogion yr Heddlu yma yn Dyfed-Powys. ”

Dywedodd y Prif Gwnstabl Dros Dro Claire Parmenter: “Rwy’n ddiolchgar i’r Gweinidog Plismona am ymweld â Heddlu Dyfed-Powys er mwyn gweld a chlywed yn uniongyrchol sut mae ein seilwaith cctv newydd ar draws yr heddlu yn ein cynorthwyo i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell ac amddiffyn y mwyaf bregus yn ein cymunedau.

“Fe wnaeth yr ymweliad gweinidogol hefyd roi cyfle inni drafod y buddion yr ydym yn eu gweld o weithredu ein Tîm Troseddau Gwledig yn ogystal â'n cynlluniau ar gyfer codi gweithrediad yn y dyfodol, sef addewid y Llywodraethau i gynyddu nifer y swyddogion heddlu ledled y wlad. gan gynnwys yma yn Dyfed-Powys. ”

DIWEDD

Gwybodaeth bellach:

Gruff Ifan

Ymgynghorydd Polisi ac Ymgysylltu

Gruffudd.ifan@dyfed-powys.pnn.police.uk

CHTh Dafydd Llywelyn yn croesawu'r Gweinidog Plismona Kit Malthouse AS i Bencadlys yr Heddlu

CHTh Dafydd Llywelyn yn croesawu'r Gweinidog Plismona Kit Malthouse AS i Bencadlys yr Heddlu