12 Tach 2021

Ddydd Llun 08.11.21, yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd Ymddiriedolwyr i elusen Diogel Dyfed-Powys, cyflwynodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn siec o £1,000 i Sefydliad AFC Dinas Abertawe ym Mharc Richmond yng Nghaerfyrddin, i brynu cit pêl-droed ac offer fel y gall y plant mwyaf difreintiedig gymryd rhan yn y fenter Premier League Kicks a lansiwyd yn ddiweddar.

Nod menter Premier League Kicks yw defnyddio pêl-droed a chwaraeon yn gyffredinol i ysbrydoli plant a phobl ifanc, a dod â chymunedau ynghyd.

Yn gynharach eleni ym mis Medi, arwyddodd y Comisiynydd Dafydd Llywelyn gytundeb tair blynedd gyda Sefydliad AFC Dinas Abertawe, gan ddyfarnu grant o £300,000 i raglen Premier League Kicks y Sefydliad i gyflwyno sesiynau pêl-droed wythnosol am ddim i blant a phobl ifanc mewn pum ardal ar draws ardal Llu Dyfed-Powys dros y tair blynedd nesaf, ac mae un ohonynt yng Nghaerfyrddin.

Ers i'r sesiynau ddechrau ym mis Hydref, mae dros gant o blant a phobl ifanc o Gaerfyrddin wedi cofrestru i fynychu, ac yn mynychu’n wythnosol ar Barc Waun Dew Clwb Pêl-droed Tref Caerfyrddin i gymryd rhan yn y sesiynau gyda hyfforddwyr AFC Dinas Abertawe, ac ymgysylltu â Swyddogion y Tim Plismona Bro.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn: “Mae wedi bod yn fraint gweld o lygad y ffynnon yr effaith y mae cynllun PL Kicks yn ei chael ar blant a phobl ifanc yn ardal Dyfed-Powys. Fel un sy'n frwd dros chwaraeon, rwy'n gwbl ymwybodol o'r dylanwad y mae chwaraeon ac ymarfer corff yn ei gael ar iechyd a lles unigolion a chymunedau yn gyffredinol.

“Weithiau byddwn yn gweld plant a phobl ifanc yn dod i fyny heb esgidiau, cit ac offer priodol, felly wrth drosglwyddo'r rhodd hon gan elusen Heddlu Dyfed-Powys, byddwn yn sicrhau bod pob plentyn yn cael yr hyn sydd ei angen arnynt i gymryd rhan yn y sesiynau gwerthfawr, ac nad oes unrhyw un yn cael ei eithrio”.

Dywedodd y Prif Arolygydd Mark McSweeney; “Mae ein timau plismona bro yn falch o fod yn cefnogi menter PL Kicks sy’n cael ei hariannu gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd.

“Yn Heddlu Dyfed-Powys, rydym yn ymfalchïo mewn ymgysylltu â'n cymunedau o bob cefndir. Mae'r sesiynau pêl-droed hyn, sy'n digwydd ar draws ardal yr heddlu, yn galluogi ein plant a'n pobl ifanc a'u rhieni / gofalwyr i gymryd rhan mewn chwaraeon, a gyda'n timau plismona cymdogaeth hefyd.

“Mae rhywbeth mor fach â rhoi darn o git pêl-droed neu bâr o esgidiau i blentyn neu berson ifanc er mwyn iddyn nhw allu cymryd rhan pan na fyddan nhw fel arall yn gallu fforddio, yn enfawr. Rydym yn hynod ddiolchgar i Ymddiriedolwyr Safer Dyfed-Powys Diogel am ariannu'r offer hwn. "

Dywedodd Craig Richards o Sefydliad AFC Abertawe; “Rydyn ni'n ddiolchgar i Gomisiynydd Heddlu a Throsedd a phawb sy'n gysylltiedig ag Elusen Diogel y Llu am eu cefnogaeth barhaus tuag at ein rhaglen PL Kicks. Bydd yr arian hwn yn helpu i gael gwared ar rwystrau i gymryd rhan, trwy ddarparu esgidiau ac offer pêl-droed i bobl ifanc gymryd rhan yn un o'n sesiynau pêl-droed wythnosol yn ardal Dyfed Powys."

DIWEDD

Rhagor o fnaylion:

Gruff Ifan

Ymgynghorydd Polisi ac Ymgysylltu

Gruffudd.ifan@dyfed-powys.pnn.police.uk

Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn a Swyddogion Heddlu Dyfed-Powys yn cyflwyno siec ar ran Elusen y Llu, Diogel, i staff Ymddiriedolaeth Clwb Pel-droed Abertawe - Swansea City AFC Foundation

Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn a Swyddogion Heddlu Dyfed-Powys yn cyflwyno siec ar ran Elusen y Llu, Diogel, i staff Ymddiriedolaeth Clwb Pel-droed Abertawe - Swansea City AFC Foundation