02 Chw 2024

Ddydd Mercher 31 Ionawr, croesawodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn bobl ifanc o bob rhan o ardal yr Heddlu i Bencadlys yr Heddlu yng Nghaerfyrddin, sydd wedi’u penodi’n aelodau newydd o gynllun Llysgenhadon Ieuenctid Dyfed-Powys, ac a fydd yn gweithio gyda’r Comisiynydd i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed.

Mae cyfanswm o naw o bobl ifanc (pum aelod newydd a phedwar aelod blaenorol) bellach yn aelodau o’r rhaglen Llysgenhadon Ieuenctid, sy’n amrywio o ran oedran o 15 i 24 oed, ac fe’u gwahoddwyd i Bencadlys yr Heddlu ar 31 Ionawr, ar gyfer sesiwn gynefino a sesiwn hyfforddi i'w cefnogi a'u paratoi i gynrychioli pobl ifanc o Bowys, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Darparwyd yr hyfforddiant mewn partneriaeth â darlithwyr Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol o Yr Athrofa Addysg a'r Dyniaethau, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Sefydlodd y Comisiynydd Dafydd Llywelyn Fforwm Ieuenctid am y tro cyntaf yn 2018 gyda llysgenhadon ieuenctid ac mae wedi parhau i adeiladu ar y gwaith hyd yma, fel bod gan Dyfed-Powys Fforwm o Lysgenhadon Ieuenctid sy’n barod i ‘ddylanwadu’ a ‘herio penderfyniadau’, sicrhau bod gan gymunedau Dyfed-Powys Heddlu sy'n diogelu plant a phobl ifanc yn llwyddiannus ac yn hybu eu lles.

Ym mis Gorffennaf 2023, cynhaliodd y grŵp blaenorol o lysgenhadon ieuenctid gynhadledd ieuenctid ym Mharc y Scarlets, Llanelli i gyflwyno canfyddiadau o ymgynghoriad ieuenctid yr oeddent wedi bod yn gweithio arno gyda CHTh Llywelyn yn ystod y flwyddyn academaidd. Gofynnodd ymgynghoriad Y Sgwrs i bobl ifanc sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Powys a Sir Benfro am eu barn a’u profiadau o gymorth iechyd meddwl i ddioddefwyr ifanc troseddau, camddefnyddio sylweddau a throseddau ieuenctid. Gofynnodd yr ymgynghoriad i bobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc esbonio beth sy’n gweithio, beth sydd ddim yn gweithio a sut y gellid gwella pethau. Cyflwynwyd eu canfyddiadau mewn adroddiad, a rannwyd gyda sefydliadau ac unigolion sy'n gweithio gyda phobl ifanc yn eu Cynhadledd Ieuenctid

Yn dilyn y Gynhadledd, mae Swyddfa CHTh Llywelyn wedi bod yn recriwtio aelodau ychwanegol i’r cynllun llysgenhadon ieuenctid, a ddaeth i gyd i’r sesiwn gynefino a gynhaliwyd ym mis Ionawr 2024 ym Mhencadlys yr Heddlu.

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn: “Rwyf wastad wedi bod yn frwd dros feithrin perthynas gref gyda phobl ifanc ac rwyf am ddeall yn well beth sy’n arwain rhai pobl ifanc at droseddu ac anhrefn a sut y gellir eu helpu i wneud dewisiadau cadarnhaol mewn bywyd.

“Rwyf am sicrhau bod gan bob bobl ifanc lais yn nyfodol plismona yn Nyfed-Powys. Rwyf am wybod beth ddylai ein blaenoriaethau fod yn eu barn nhw? Pa effaith mae trosedd yn ei chael arnyn nhw a'u cymuned? Beth sydd angen i ni ei newid?

“Roedd yn wych croesawu’r Llysgenhadon i Bencadlys yr Heddlu ar gyfer eu sesiwn sefydlu, a gorfod trafod materion amrywiol gyda nhw. Byddant nawr yn cynrychioli lleisiau pobl ifanc o bob cefndir, ac yn fy nghefnogi gyda fy ngwaith craffu trwy herio penderfyniadau, darparu argymhellion, a dylanwadu ar newid er budd pobl ifanc yn ein hardal.”

Dywedodd Bradley Cole sy’n Llysgennad Ieuenctid o Sir Benfro; "Cawsom i gyd amser anhygoel yn y digwyddiad sefydlu. Rhoddodd gyfle i ni ddod i adnabod ein gilydd, a datblygu'r sgiliau i'n helpu i roi adborth i'r Comisiynydd a'i staff, ac rwy'n hapus iawn i allu gwneud hynny am yr ail flwyddyn."

Dywedodd Angharad Lewis, Cyfarwyddwr Rhaglen BA & MA Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol gyda Yr Athrofa Addysg a Dyniaethau: Canolfan Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant; "Roedd yn fraint cael bod yn rhan o Ddigwyddiad Sefydlu Fforwm Ieuenctid y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, a threulio amser gyda’r Llysgenhadon Ieuenctid newydd. Roeddent yn dangos brwdfrydedd, cyfranogiad ac ymgysylltiad arbennig, ac mi fyddan nhw'n llysgenhadon ac eiriolwyr gwych ar gyfer pobl ifanc eraill ar draws ardal Heddlu Dyfed Powys. Mi fyddan nhw'n gaffaeliad i’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu, a dymunwn yn dda iddynt."

DIWEDD

Nodiadau i'r Golygydd

Mae manylion am Gynllun Llysgenhadon Ieuenctid y CHTh ar gael yma:

Manylion pellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk