13 Rhag 2017

Neithiwr (12/12/17), cynhaliodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, ei ail gyfarfod cyhoeddus yn Llanelli gyda’r Dirprwy Brif Gwnstabl Darren Davies.

Drwy bontio’r cyswllt rhwng y cymunedau a’r heddlu, mae Dafydd Llywelyn yn rhoi cyfle i’r cyhoedd ddod i siarad gydag ef a phrif swyddog. Cyfarfod neithiwr yng Nghanolfan Selwyn Samuel oedd y diweddaraf mewn cyfres o gyfarfodydd sydd wedi’u trefnu ar draws ardal Dyfed-Powys.

Daeth preswylwyr o bob cwr o Lanelli i glywed y Comisiynydd a’r Dirprwy Brif Gwnstabl yn siarad am blismona yn yr ardal leol. Cynhaliwyd trafodaethau agored ac onest am bryderon lleol, gan gynnwys camddefnyddio sylweddau, ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac effaith rhain ar ein cymunedau.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, ei fod yn ddiolchgar i’r rhai a ddaeth i’r cyfarfod ar noson mor oer a diflas ym mis Rhagfyr. Ychwanegodd bod y cyfarfodydd hyn yn rhoi gwir ddealltwriaeth i uwch arweinwyr o’r materion sy’n poeni preswylwyr lleol. “Mae’n bwysig nad ydyn ni’n rhagdybio pa faterion sy’n effeithio ar breswylwyr lleol o ddata perfformiad ac ystadegau yn unig. Gall plismona drwy ganiatâd ond digwydd os weithiwn ni’n agos â’n cymunedau a gwrando ar eu barn. Mae gwaith amlasiantaeth yn hollbwysig ar gyfer rhoi ymateb wedi’i deilwra ar gyfer mynd i’r afael â phryderon cymunedol. Ond yn y bôn, rhaid i’r heddlu a’n partneriaid ddeall y pryderon hynny.

Roedd y Dirprwy Brif Gwnstabl Darren Davies yn teimlo bod yr ymagwedd arloesol hon gan Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, yn ddatblygiad cadarnhaol. Roedd hi’n dda ganddo fynd i Lanelli ar ôl gwasanaethu yno fel Cwnstabl Heddlu o 1988-93 cyn symud ymlaen i rolau eraill. Dywedodd, “Mae Heddlu Dyfed-Powys yn malio am ei gymunedau. Codwyd materion yn ystod y trafodaethau a fydd yn cael eu hystyried ymhellach. Mae’r safbwyntiau a roddwyd gan y rhai a oedd yn bresennol wedi rhoi mewnwelediad i feddyliau a theimladau preswylwyr  Llanelli i’r Prif Arolygydd gweithredol ar gyfer Sir Gaerfyrddin a minnau.

Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Davies, “Tref ganolig yw Llanelli â phoblogaeth sylweddol. Mae ardaloedd o fewn y dref a’r wardiau cyfagos sy’n derbyn cymorth uwch gan wasanaethau pan fod angen. Mae’r cyfarfod hwn wedi dangos pwysigrwydd parhau i ymgysylltu â phreswylwyr, busnesau a phartneriaid fel ein bod ni’n gweithio o sefyllfa sydd wir yn wybodus.