25 Maw 2020

Yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog nos Lun, hoffwn sicrhau’r cyhoedd bod y gwaith cynllunio a pharatoi dwys sydd wedi digwydd o fewn Heddlu Dyfed Powys dros yr wythnos ddiwethaf bellach yn weithredol.

Rwyf mewn cysylltiad dyddiol â chydweithwyr o Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, yn ogystal ag awdurdodau lleol, ac yn cael fy niweddaru yn gyson ar ein hymateb gweithredol drwy fy sesiynau briffio dyddiol gyda Phrif Gwnstabl Dyfed Powys, Mark Collins. Gallwch fod yn dawel eich meddwl, y byddwn yn gweithredu'n briodol i gefnogi ein partneriaid allweddol er mwyn diogelu ein cymunedau.

Mae'r wythnos hon wedi bod yn gyfnod nas gwelwyd erioed ei thebyg o’r blaen i mi yn fy ngyrfa 20 mlynedd ym maes Plismona, a hoffwn ddiolch i chi i gyd am eich cydweithrediad yn ystod yr amser anodd ac ansicr hwn i bob un ohonom.

Dylai amddiffyn pobl fregus fod yn flaenoriaeth i bawb ar yr adeg hon. Gwnewch eich rhan. Arhoswch adref, arhoswch yn ddiogel ac fe achubwn fywydau.