23 Gor 2019

Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn croesawu’r cyhoeddiad ynghylch cyflogau swyddogion heddlu'r wythnos hon, ond mae’n gofyn pwy fydd yn gorfod talu’r pris.

 Ar ôl blynyddoedd o rewi cyflogau a chynnydd mewn costau byw, mae’r Comisiynydd Dafydd Llywelyn yn croesawu’r cynnydd o 2.5% yng nghyflogau swyddogion heddlu, ond yn codi pryderon bod hyn yn bwysau ariannol arall a fydd yn cael ei ddiwallu gan y cyhoedd.

 Meddai: “Yn gynharach eleni, roedd gennyf benderfyniad anodd iawn i’w wneud wrth i mi godi’r dreth gyngor ar gyfer plismona (praesept) 10.7%. Nid oedd dewis gennyf ond gwneud hyn er mwyn cynnal lefel y gwasanaeth ar gyfer preswylwyr Dyfed-Powys. Roedd hyn dal yn gadael yr heddlu mewn sefyllfa anodd ac ansicr, ond trwy waith caled a thrwy fod yn benderfynol, llwyddwyd i fantoli’r cyfrifon. 

“Wrth i ni barhau i weithio ar gynllun ariannol cynaliadwy i fodloni nifer o bwysau ariannol yn y dyfodol, gan gynnwys costau ychwanegol ar gyfer pensiynau a drosglwyddwyd i heddluoedd gan y llywodraeth, mae’r dyfarniad cyflog hwn yn faich arall eto fyth. Mae’r arian ar gyfer cefnogi plismona ar lawr gwlad, sydd eisoes dan bwysau, yn cael ei lyncu fwyfwy gan y pwysau hwn. Er bod y codiad cyflog, sydd wir ei angen ac yn orddyledus, yn cael ei roi gan y naill law, mae perygl y bydd yn cael ei gymryd i ffwrdd gan y llall.

 “Nid yw parhau i drosglwyddo cyfrifoldeb o’r llywodraeth i Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu a Phrif Gwnstabliaid yn gynaliadwy. Rwy’n galw ar y Trysorlys, trwy grant yr heddlu, i ymateb a rhoi’r arian sydd ei angen arnynt i heddluoedd er mwyn darparu gwasanaeth plismona sy’n bodloni gofynion sy’n esblygu.

 “Bellach, daw dros hanner cyllideb Heddlu Dyfed-Powys o bocedi’r cymunedau mae’n eu gwasanaethu. Er mai’r praesept a delir gan breswylwyr Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys yw’r isaf o’r pedwar heddlu yng Nghymru o hyd, ni ddylai’r llywodraeth barhau i osod y baich ar ein cymunedau o hyd.”