12 Gor 2023

Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn wedi cyhoeddi adroddiad sydd wedi’i baratoi ar y cyd â’i Fforwm Ieuenctid, sy’n dadansoddi canfyddiadau eu hymgynghoriad ieuenctid diweddar o’r enw Y Sgwrs.

Gofynnodd Y Sgwrs i bobl ifanc sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Powys a Sir Benfro am eu barn a’u profiadau o gymorth iechyd meddwl i ddioddefwyr trosedd ifanc, camddefnyddio sylweddau a throseddau ieuenctid. Gofynnodd yr ymgynghoriad i bobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc esbonio beth sy’n gweithio, beth sydd ddim yn gweithio a sut y gellid gwella pethau.

Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys arolwg ar-lein, grwpiau ffocws a gynhaliwyd yn lleol gan aelodau’r Fforwm Ieuenctid, ac adborth gan bobl ifanc a fu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Llanymddyfri yn ddiweddar.

Rhannwyd yr adroddiad gyda sefydliadau ac unigolion sy'n gweithio gyda phobl ifanc mewn Cynhadledd Ieuenctid a gynhaliwyd gan y Fforwm Ieuenctid a'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, yn Llanelli Sir Gaerfyrddin ar 5ed o Orffennaf, gyda'r adroddiad bellach ar gael i'r cyhoedd I’w ddarllen.

Bu'r unigolion a ymatebodd i'r arolwg a'r grwpiau ffocws i gyd yn trafod rôl ysgolion a cholegau ac yn ystyried a allent wneud mwy i ddarparu gwell mynediad at gyfleoedd gyrfa a hyfforddiant. Nododd y rhai a gymerodd ran y gellid gwneud mwy i ddarparu ar gyfer cyfleoedd ehangach. Soniodd llawer hefyd am wella mynediad at ddysgu mwy o sgiliau bywyd a dewis ehangach o brofiad gwaith a chyngor gyrfaoedd.

Bu swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn yn gweithio gydag aelodau’r Fforwm Ieuenctid i lunio cyfres o argymhellion i’r Heddlu a sefydliadau partner eu hystyried. Maent yn cynnwys;

  • Argymhelliad 1: Dylai Heddlu Dyfed-Powys a Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu gynyddu nifer y postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a chymorth iechyd meddwl yn yr ardal. Dylai’r heddlu rannu’r eitemau hyn drwy’r cyfryngau cymdeithasol a cheisio targedu cynulleidfa bellgyrhaeddol.

 

  • Argymhelliad 2: Dylai partneriaid godi ymwybyddiaeth o’u gwasanaethau a hysbysu plant a phobl ifanc am wasanaethau iechyd meddwl yn yr ardal leol, sut y gall pobl gael cymorth, a darparu gwybodaeth fanwl am y broses o gael mynediad at y gwasanaeth.

 

  • Argymhelliad 3: Dylai Heddlu Dyfed-Powys a’i bartneriaid weithio i wella’r modd y mae’n rhannu data rhwng asiantaethau a sefydliadau er mwyn sicrhau dull sy’n canolbwyntio ar y plentyn.

 

  • Argymhelliad 4: Dylai Heddlu Dyfed-Powys a’i bartneriaid anelu at godi ymwybyddiaeth o’r gwasanaethau camddefnyddio sylweddau sydd ar gael i blant a phobl ifanc yn ardal yr Heddlu.

 

  • Argymhelliad 5: Dylai Swyddogion Heddlu Ysgolion ystyried cynnwys gwybodaeth am effeithiau hirdymor defnyddio cyffuriau, yn ogystal â chymhorthion gweledol, wrth ymgysylltu ag ysgolion ynghylch camddefnyddio sylweddau.

 

  • Argymhelliad 6: Dylai Swyddogion Heddlu Ysgolion ystyried gweithio gyda’r byrddau iechyd lleol i greu hyfforddiant i staff addysgu mewn ysgolion ar gamddefnyddio sylweddau a’r cymorth sydd ar gael.

 

  • Argymhelliad 7: Dylai Heddlu Dyfed-Powys gynyddu perthynas gadarnhaol â phlant a phobl ifanc drwy, er enghraifft, greu digwyddiadau ymgysylltu neu ddiwrnodau agored yn gwahodd plant a phobl ifanc i ddod i adnabod y gwasanaeth. Dylai’r Heddlu hefyd ystyried rhannu gwaith cadarnhaol wrth ymgysylltu â phlant a phobl ifanc trwy’r cyfryngau cymdeithasol er mwyn cyrraedd cynulleidfa ehangach.

 

  • Argymhelliad 8: Heddlu Dyfed-Powys i godi ymwybyddiaeth o ganlyniadau tebygol troseddau lefel isel ymhlith plant a phobl ifanc fel eu bod yn deall y canlyniadau.

 

  • Argymhelliad 9: Mewn ymateb i’r adroddiad hwn a’i argymhellion, dylai’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu gefnogi ceisiadau am gyllid gan sefydliadau ieuenctid ac elusennau. Gall Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu gynnig cyllid uniongyrchol sydd yn  gefnogi'r gwaith o gyflawni blaenoriaethau'r Cynllun Heddlu a Throseddu.

 

Wrth ymateb i’r argymhellion tra hefyd yn edrych yn ôl ar y trafodaethau a gynhaliwyd yn y Gynhadledd Ieuenctid, dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn; “Hoffwn fynegi fy niolch o galon i’r holl bartneriaid a phobl ifanc a ymunodd â ni yn ein Cynhadledd Ieuenctid yr wythnos diwethaf. Gyda’n gilydd, fe wnaethom gymryd cam pwerus tuag at fynd i’r afael â phynciau hollbwysig sy’n effeithio ar ein hieuenctid.

“Roedd y gynhadledd yn canolbwyntio ar ymgynghoriad Y Sgwrs y mae’r Fforwm Ieuenctid wedi bod yn gweithio arno dros y flwyddyn ddiwethaf gyda fy Swyddfa, a oedd yn canolbwyntio ar dri maes allweddol: cymorth iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau, a throseddau ieuenctid.

“Trwy gydweithio â phobl ifanc a phartneriaid lleol, gallwn archwilio atebion arloesol a chreu llwyfan ar gyfer deialog agored, gan sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed.

“Hoffwn ddiolch i bob person ifanc sydd wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn. Bydd eich mewnwelediadau, eich syniadau a'ch profiadau yn llywio dyfodol ein cymuned, ac rydym yn ddiolchgar am eich cyfraniadau gwerthfawr.

“Byddaf yn awr yn anelu at weithio’n agos gyda’r Heddlu a phartneriaid allweddol i ymateb yn unol i’r argymhellion a amlygwyd yn yr adroddiad, fel y gallwn dorri rhwystrau, a chefnogi ein gilydd i greu amgylchedd mwy diogel ac iachach i’n hieuenctid. Gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol!”

Dywedodd Kai Collins, un o aelodau Fforwm Ieuenctid Dyfed-Powys; “Mae ein hadroddiad o’r enw Y Sgwrs, yn dwyn ynghyd holl ganfyddiadau’r arolwg. Rydym am i’r Heddlu a’r gwasanaethau cefnogi ddarllen ein hadroddiad ac ystyried ei ganfyddiadau a’i argymhellion yn eu gwaith presennol ac yn y dyfodol.

“Rwyf wedi bod yn aelod o’r Fforwm Ieuenctid ers 2019, a thrwy gydol fy amser fel llysgennad, rwyf wedi teimlo ymdeimlad o berthyn a newid. Teimlaf fod ein Fforwm Ieuenctid wedi cael effaith fawr ar yr ardaloedd lleol ac wedi cyrraedd llawer o bobl ac wedi dangos iddynt nad yw’r Heddlu mor frawychus ag y gwneir allan iddynt fod yn aml. Rwy’n teimlo bod yr holl waith rydym wedi’i wneud wedi helpu i addysgu cymaint o bobl ifanc ac wedi caniatáu iddynt fynegi eu barn ar yr hyn sydd angen ei wneud”.

Fe ellir lawrlwytho adroddiad Ymgynghoriad Ieuenctid Y Sgwrs oddi ar wefan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yma.

DIWEDD

Gwybodaeth bellach:

Gruffudd Ifan

Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Gruffudd.ifan@dyfed-powys.police.uk