17 Ion 2024
Bydd Cydnabod Bregusrwydd o fewn Troseddwyr yn ffocws yng Nghynhadledd Gwyl Dewi flynyddol y Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn eleni, a gynhelir ddydd Gwener 1af Mawrth ym Mhencadlys Heddlu Dyfed-Powys yng Nghaerfyrddin.
Mae cydnabod bregusrwydd troseddwyr yn hanfodol ar gyfer datblygu agwedd fwy cynnil ac effeithiol at gyfiawnder troseddol yn ôl CHTh Llywelyn. Mae adnabod a deall gwendidau yn caniatáu ar gyfer ymyriadau targedig ac effeithiol a bydd yn helpu i leihau risgiau aildroseddu ac erledigaeth.
Drwy fynd i’r afael â’r materion sylfaenol sy’n cyfrannu at ymddygiad troseddol, mae gwell siawns o dorri’r cylch aildroseddu a hyrwyddo newid cadarnhaol hirdymor.
Bydd y Gynhadledd yn rhoi cipolwg ar sut mae amrywiaeth o sefydliadau a darparwyr gwasanaethau cymorth yn gweithio i ddeall pa mor fregus ac agored i niwed yw troseddwyr; sut maent yn adnabod sefyllfaoedd lle gallai troseddwyr fod mewn perygl o gael eu herlid o fewn y system cyfiawnder troseddol; a sut maent yn cefnogi roi mesurau diogelu priodol ar waith i amddiffyn unigolion bregus rhag niwed.
Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn; “Mae’n bleser mawr i mi gael cynnal fy wythfed Cynhadledd Dydd Gŵyl Dewi flynyddol, a fydd eleni’n canolbwyntio ar gydnabod bregusrwydd troseddwyr.
“Mae’n bwysig cydnabod bod llawer o droseddwyr yn aml yn ddioddefwyr eu hunain, a allai fod wedi profi troseddau yn waeth na’u rhai nhw. Yn ogystal, mae nifer sylweddol ohonynt yn dioddef o broblemau iechyd meddwl.
“Mae deall y ffactorau sylfaenol hyn yn hanfodol wrth i ni ymdrechu i ddod o hyd i atebion mwy tosturiol ac effeithiol. Nid anfon unigolion i garchar yw'r dewis gorau bob amser; yn lle hynny, rhaid inni gydweithio i ddatblygu ymyriadau a systemau cymorth sy'n mynd i'r afael â'r achosion sylfaenol ac yn cyfrannu at adsefydlu.
“Bydd fy nghynhadledd eleni yn dod ag arbenigwyr a rhanddeiliaid ynghyd i drafod mentrau cydweithredol, codi ymwybyddiaeth, ac edrych ar strategaethau effeithiol sy’n anelu at gymdeithas fwy diogel a sicr.”
Ymhlith y siaradwyr gwadd yn y Gynhadledd mae:
- Michelle John, Cyfarwyddwr - Cefnogaeth PEGS
Cydnabod ac ymateb i Gam-drin Plant i Rieni
- Rebecca Zerk, Cyfarwyddwr y Ganolfan Oedran, Rhywedd a Chyfiawnder Cymdeithasol
- Elize Freeman, Dirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan ar gyfer Oedran, Rhywedd a Chyfiawnder Cymdeithasol
Prifysgol Aberystwyth
Profiadau dioddefwyr hŷn o gam-drin teuluol sy’n oedolion
- Mike Wilkinson, Dirprwy Brif Weithredwr, Llwybrau Newydd
Ymateb i Ymddygiad Rhywiol Niweidiol a ddangosir gan ddioddefwyr trais
- Christina Line, Prif Swyddog Gweithredu, The Nelson Trust & Gemma Humphreys, Rheolwr Gwasanaeth Cyfiawnder Troseddol Merched – Cymru, The Nelson Trust
Gwasanaethau Troseddau Merched a Dull Canolfan Merched
- Ymagwedd strategol at reoli troseddwyr a'r Glasbrint Troseddwyr Benywaidd
Hwn fydd wythfed Cynhadledd flynyddol Gŵyl Ddewi CHTh Dafydd Llywelyn, gyda chynadleddau blaenorol yn canolbwyntio ar Reolaeth Orfodol (2017); Iechyd Meddwl mewn Plismona (2018); Seiberdroseddu (2019); Troseddau Cefn Gwlad (2020), Dioddefwyr (2021), Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (2022), a Phlismona trwy Ganiatâd (2023).
Cynhelir y Gynhadledd ym Mhencadlys Heddlu Dyfed-Powys yng Nghaerfyrddin, tra bydd cyfle hefyd i unigolion ymuno ar-lein.
Wrth grynhoi, dywedodd CHTh Llywelyn; “Rwy’n edrych ymlaen at groesawu pawb i’r gynhadledd eleni wrth i ni ystyried sut i ymateb i wendidau o fewn troseddwyr, a datblygu ymagwedd fwy cynnil ac effeithiol at gyfiawnder troseddol”.
DIWEDD
Gwybodaeth bellach