07 Maw 2022

Ddydd Gwener 4 Mawrth 2022, cynhaliodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn ei chweched Gynhadledd flynyddol yn olynol ar Ddydd Gŵyl Dewi ym Mhencadlys Heddlu Dyfed-Powys yng Nghaerfyrddin.

Mae Cynadleddau blaenorol wedi canolbwyntio ar Reoli Gorfodol (2017); Iechyd Meddwl mewn Plismona (2018); Seiberdroseddu (2019); Troseddau Cefn Gwlad (2020) a Dioddefwyr (2021).

Eleni, roedd ffocws Cynhadledd y Comisiynydd ar Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (YGG) gyda siaradwyr gwadd yn cynnwys Prif Gwnstabl Cenedlaethol yr Heddlu ar Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Andy Prophet, sy’n Ddirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Essex, a Charlotte Hamilton-Kay sy’n Rheolwr Prosiect Dioddefwyr Arbenigol gydag ASB Help - elusen a sefydlwyd i roi cyngor a chefnogaeth i ddioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn falch o fod y cyntaf yng Nghymru i gymryd yr ‘Adduned YGG’ gydag ASB Help sy’n dangos eu hymrwymiad i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a rhoi cyfle i ddioddefwyr ofyn am adolygiad.

Dywedodd y Comisiynydd Dafydd Llywelyn: “Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol gael effaith aruthrol ar ei ddioddefwyr ac, mewn rhai achosion, ar y gymuned ehangach. Yn fy Nghynllun Heddlu a Throseddu newydd a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, rwyf wedi tynnu sylw at atal niwed a achosir gan droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol fel blaenoriaeth.

“Mae ymateb effeithiol i YGG yn gofyn am arloesi, partneriaeth gref rhwng asiantaethau lleol, a meddylfryd sy’n rhoi dioddefwyr yn gyntaf.

“Roedd cynhadledd eleni yn taflu goleuni ar yr her bwysig sy’n ein hwynebu a’r cyfleoedd sydd ar gael i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol gyda mewnbwn ar ddull Dyfed-Powys o fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, sy’n cynnwys sut mae’r heddlu yn dal, yn cofnodi ac yn rheoli ymddygiad gwrthgymdeithasol; rôl y cydlynwyr a'r cyfryngwyr, a'r ymyriadau lefel isel a'r dulliau adferol. Cafwyd hefyd Sgyrsiau Mellt Rhanbarthol yn ogystal â mewnbwn pwerus ac emosiynol gan ddioddefwyr YGG. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch unwaith eto i’m holl siaradwyr gwadd, yn ogystal â phawb a fynychodd yn bersonol ym Mhencadlys yr Heddlu ac ar-lein o bob rhan o Gymru a Lloegr. Roedd yn ddigwyddiad llwyddiannus, ac rwy’n edrych ymlaen yn barod at y flwyddyn nesaf.”

DIWEDD

Rhagor o fanylion:

Gruff Ifan

Ymgynghorydd Polisi ac Ymgysylltu

gruffudd.ifan@dyfed-powys.police.uk 

Comisiynydd Dafydd Llywelyn yn ei gynhadledd Gwyl Dewi flynyddol ym Mhencadlys yr Heddlu, gyda siaradwyr gwadd o ASB Help, Cyngor Sir Penfro, a Heddlu Dyfed-Powys

Comisiynydd Dafydd Llywelyn yn ei gynhadledd Gwyl Dewi flynyddol ym Mhencadlys yr Heddlu, gyda siaradwyr gwadd o ASB Help, Cyngor Sir Penfro, a Heddlu Dyfed-Powys